Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

UN O’R pethau cyntaf a ddysgwn i’n plant yw dweud y gair “sorri”. Wedi hynny, dyna ddiwedd y mater. Ceir maddeuant gan dderbyn mai bodau meidrol ydym oll. Ond ymddengys y gair yn un amhosib i’w ddweud gan ambell un.

Sôn am Boris Johnson yr ydw i a’r ffordd nadreddog iddo geisio llysnafu ei ffordd allan o wneud camgymeria­d anferthol.

Dywedodd ar goedd fod Nazanin Zaghari-Radcliffe yn Iran, dim ond am ei bod yn hyfforddi newyddiadu­rwyr.

Roeddwn i hyd yn oed yn gwybod yn well nag ef, o fod wedi gweld ei gŵr addfwyn, amyneddgar ar newyddion Channel 4.

Yno ar wyliau gyda’i theulu oedd hi, cyn iddi gael ei charcharu ar gyhuddiada­u rhyfedd o geisio dymchwel y drefn yno. Ond dyma ein Gweinidog Tramor ni yn bwnglera’n anwybodus.

Jyst gobeithio na chaiff yr un ohonom ein arestio ar gam mewn gwlad ddieithr – achos allwch chi ddim sicrhau y bydd Boris yn cymryd unrhyw ddiddordeb yn eich tynged.

Ac fe gymerodd ddyddiau lawer iddo cyn ymddiheuro go iawn os allwch o hyd ei alw yn ymddiheuri­ad. Y gair a arferir yn lle hynny yw “eglurhau”.

Dywed y bydd yn gweld ei gŵr, Richard Radcliffe, yr wythnos hon ac yn ymweld ag Iran meddir, “cyn diwedd y flwyddyn”.

Diwedd y flwyddyn? Mae pob dydd y mae hi yno yng ngharchar nodedig Evin yn Tehran yn ddydd y dylai fod gartref gyda’i merch fach yn Llundain.

I ychwanegu at y blerwch, gwrandewai­s ar Michael Gove ar raglen Andrew Marr yn dweud nad oedd yn gwybod pam roedd hi yno.

Dengys cyn lleied o gonsyrn sydd gan y ddau frawd yma ynghylch tynged Nazanin. Ond gwyddom mai’r unig beth ar feddyliau’r ddau yw cynllwynio eto fyth i hyrwyddo eu gyrfaoedd. Hynny a blerwch Brexit.

Awgrymodd rhywun mai’r diplomat go iawn yn yr achos hwn yw Richard Radcliffe ei hun wrth ymarfer pwyll ac wrth eirioli’n ddeallus dros ei wraig. Chwarae teg hefyd i’r carcharori­on o ferched yno sydd yn ceisio cynnal ei hysbryd, rhai sydd wedi dioddef artaith ac yno ar gam.

Go brin bod creadur y lyncs a wnaeth ddianc o’r sŵ yn Borth yn haeddu yr un sylw â’r uchod ond roedd clywed iddo farw yn siom o feddwl y gellid bod wedi’i saethu gyda thawelydd. Ond dyna ni. Gwaeth o lawer oedd clywed i lyncs arall grogi ei hun wrth gael ei symud gan ysŵ. Beth bynnag, nid mewn caets y mae eu lle. Ymddengys yn warchodfa esgeulus... mor esgeulus â cheg y Boris y carwn ei ryddhau i’r gwyllt ac o’i swydd fel y gall droedio fel a fyn.

Ond yn wahanol i’r lyncs ling di long, mae ysglyfaeth Brexit yn ei olygon a Michael Gove yn ei ddilyn fel cenaau bach.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom