WELSH COLUMN
MAE’N amhosib peidio â chyflwyno’r golofn hon i Bobi Jones, a fu farw yr wythnos diwethaf.
Prin yw’r gofod bellach mewn print i deyrngedu yn Gymraeg. Dyma achub ar y cyfle i ddiolch am ei gyfraniad i Gymru a’n llenyddiaeth.
Does neb arall wedi dod yn agos at gynhyrchu llyfrau mor amrywiol eu themâu a’u cynnwys: yn farddoniaeth, nofelau, beirniadaeth lenyddol a llyfrau addysgiadol.
Bu ei ddylanwad fel Athro ar genedlaethau o fyfyrwyr yn rhyfeddol, gyda chenedlaethau yn dilyn gyrfaoedd fel athrawon ac awduron.
Yr un egni a dreiddiai o’i bersonoliaeth fyrlymus a’r hyn a geir yn ei waith deallus. Er, anodd oedd dilyn llinynnau ei ysgrifennu weithiau am y rhagdybiai y dylem fod mor wybodus ag ef ynghylch materion o bob math.
Roedd y ffaith iddo ddysgu Cymraeg fel llanc yng Nghaerdydd, graddio yn y Gymraeg a dod yn Athro ym Mhrifysgol Aberystwyth fel pe wedi ei wneud yn gennad, boed ar dafod neu ar ddalen mewn llyfr.
Ymroddodd yn ddiflino dros yr iaith. Roedd yn hollbresennol wrth gyfansoddi yn feunyddiol, gan gyhoeddi cyfrolau swmpus o amrywiol yn gyson.
Ef biau un o gerddi hwyaf yr iaith, “Hunllef Arthur”, cerdd sy’n ymestyn dros 21,000 o linellau ac yn wrth-arwrgerdd.
O’r eiliad pan orffenais ddarllen “Y Gân Gyntaf” yn y ’60au, fe’m swyngyfareddwyd gan ei ddull o ganu rhydd. Awchwn am ddarllen ei weithiau, ond dyfnhaodd ei arddull, fel y gwna unrhyw awdur gwerth chweil. Ni ddeallwn bopeth a ysgrifennodd ond gwrthododd dwpeiddio deunydd er mwyn bod yn boblogaidd. Tybed a ragwelodd yr oes arwynebol hon?
Ond mae gennym bellach fel cenedl, lyfrgell o weithiau Bobi sy’n treiddio i fyd seicoleg a chrefydd, i athroniaeth a ieithyddiaeth. Ac arlein bellach. Ond un llinyn a red drwy hyn oll yw ei gariad dwfn at Beti ei wraig. Ceir cerddi tyner am ddedwyddwch teulu hefyd.
Dyn â chanddo weledigaeth arbennig o weld y Gymraeg yn ffynnu ydoedd, yn enwedig ymysg dysgwyr fel ef ei hun unwaith. Bu sefydlu CYD yn gamp arall a gyflawnodd ac mae’r cymdeithasu yma’n parhau hyd heddiw.
Dyn gwylaidd, hynaws ydoedd a chanddo hiwmor heintus. Derbyniais lawer tro, nodyn caredig o anogaeth oddi wrtho. Gallwn fod wedi digalonni fel bardd o ferch yn y ’70au oni bai iddo ddewis “Stafelloedd Aros” fel cyfrol arobryn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1977.
Dylai’r enw Bobi, fel Waldo, atseinio fel arwyddlun o Gymro, llenor, a Christion.
Yn y “Gân Gyntaf” ceir llinell “Angau rwyt ti’n fy ofni i”. Os cyfeirio at y Gymraeg a llên a wna yma, gallwn ddweud yn hyderus – bydd byw ei weithiau. Gweithiau eofn godidog.