Western Mail

Gwasanaeth­au gofal sylfaenol Cymraeg

-

YSGRIFENNW­N fel ymarferwyr ym maes gofal iechyd gan ofyn am newid Safonau’r Gymraeg fel bod hawliau cyfreithad­wy cadarn a chlir gan y cyhoedd i dderbyn gwasanaeth­au gofal sylfaenol yn Gymraeg.

Pryderwn yn fawr nad yw’r rheoliadau drafft yn sicrhau hawliau i’r Gymraeg wrth i’r cyhoedd ymwneud â gwasanaeth­au gofal sylfaenol y gwasanaeth iechyd.

Fel y gwyddoch, prif gyswllt y cyhoedd â’r gwasanaeth­au iechyd yw’r gwasanaeth­au hyn, felly mae’n allweddol bod cleifion yn cael siarad â’r gwasanaeth­au gofal sylfaenol ledled y wlad yn Gymraeg.

Credwn ei bod yn hanfodol nad yw darparwyr y gwasanaeth­au rheng flaen hyn yn cael eu heithrio o’r Safonau arfaethedi­g. Wedi’r cwbl, rydym yn sôn am hawliau rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, ar adegau yn eu bywydau pan fo cyfathrebu yn Gymraeg yn bwysig iawn i’w hiechyd ac o ran sicrhau’r driniaeth orau iddyn nhw.

Yn adroddiad “Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymholiad i’r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol” yn ôl ym mis Mehefin 2014 roedd Comisiynyd­d y Gymraeg yn nodi’n glir ar ôl ymchwil drwyadl ei bod yn hanfodol sicrhau cysondeb o ran ymddygiad ieithyddol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ei gyfanrwydd. O ganlyniad, credwn fod rhaid i ddarparwyr gwasanaeth­au gofal sylfaenol fod yn ddarostyng­edig i safonau’r Gymraeg o dan yr un fframwaith statudol â’r byrddau

iechyd a sefydliada­u iechyd eraill.

Rhaid cymryd camau penodol i sicrhau bod deddfwriae­th ac is-ddeddfwria­eth sydd yn yr arfaeth yn adlewyrchu’r angen i hybu’r Gymraeg mewn gwasanaeth­au gofal sylfaenol. Mae digon o waith ymchwil rhyngwlado­l yn ogystal yn cefnogi’r galwadau hyn.

Erfyniwn arnoch felly i newid y rheoliadau fel bod gan bobl ar lawr gwlad hawliau cadarn yn y meysydd hollbwysig hyn. Dr Emyr Humphreys Ymgynghory­dd Gwynegonol­eg; Gudrun Jones Therapydd Celf – Gofal Oncoleg a Lliniarol; Dr Elin Walker Jones Seicolegyd­d Clinigol Ymgynghoro­l a 29 arall (gweler WalesOnlin­e am restr lawn o llofnodwyr)

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom