Western Mail

Llwyfan unigryw i’r diwydiant ffermio

- Meinir Howells

FEL merch o Sir Gâr, roeddwn i mor falch bod y sir wedi cynnal tri digwyddiad llwyddiann­us iawn ar faes y Sioe yn Llanelwedd eleni.

Llongyfarc­hiadau mawr i bob un wnaeth gyfrannu yn ystod y cyfnod hwn, gyda’r Ffair Aeaf yn ddiweddglo perffaith i’r cyfan.

Mae’r digwyddiad deuddydd yn rhoi cyfle i ddathlu cynnyrch Cymreig ar ei orau, ac mae awyrgylch Nadoligaid­d iawn yno, sy’n cael ei fwynhau gan filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae’n gyfle perffaith i rwydweithi­o gyda chyd-ffermwyr, cynhyrchwy­r, cyflenwyr a phrynwyr, ac mae hi wedi dod yn ganolfan ddelfrydol i drafod, cynllunio a gwneud busnes.

Darlledu o gylch y defaid oeddwn i trwy gydol y deuddydd yn mwynhau ymysg ffermwyr angerddol a ffyddlon i’r digwyddiad. Bu’r gefnogaeth gan y diwydiant yn amlwg eleni eto, gyda chynigion cryf o bob cwr o’r Deyrnas Unedig ym mhob adran.

Roedd mwy nag erioed yn cystadlu yn y cystadlaet­hau defaid a charcas, ac roedd yr ieuenctid yn chwarae rhan bwysig iawn, gydag Anest Fflur Roberts o Gorwen yn ennill yr Is-bencampwri­aeth yn adran y defaid, a hynny ar ei hymgais gyntaf yn cystadlu, gyda dau oen Mynydd Du Cymreig.

Dyfarnwyd un o’r teitlau mwyaf clodfawr sydd i’w hennill yn y ffair bob blwyddyn – prif bencampwri­aeth y gwartheg – i “Mouse”, heffer Limousin yn pwyso 628kg, yn cael ei dangos gan Price a Rogers o’r Clas ar Wy, Powys.

Fe werthwyd hi ar ddiwedd y dydd am £5,100, i Anthony Kitson o Hutton, Gogledd Swydd Efrog. Mae’r teulu yma’n gefnogwyr brwd o’r ffair – y nhw brynodd prif Bencampwr y llynedd hefyd.

Does dim dwywaith amdani, rydyn ni’n ffodus iawn yma yng Nghymru i gael stoc a chynnyrch o’r radd flaenaf ac mae’r Ffair Aeaf yn llwyfan unigryw i fedru arddangos beth mae ffermwyr a chynhyrchw­yr yn medru cynhyrchu.

Gyda Brexit ar y gorwel, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n addysgu’r genhedlaet­h nesaf o gwsmeriaid am gynnyrch Cymreig. Efallai y gallwn ni osod her bersonol i’n hunain y Nadolig hwn, i lenwi ein plât Nadolig gyda chynnyrch Cymreig. Rhaid inni fod yn barod i gefnogi ein diwydiant amaethyddo­l ni ein hunain, cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Mae Meinir Howells yn gyflwynydd ar y gyfres Ffermio. Gallwch wylio Ffermio bob nos Lun am 9.30yh ar S4C ac ar alw arlein ar s4c.cymru am 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom