Ansicrwydd yn cael effaith andwyol
DIWEDD y gân yw’r geiniog, gyda’r Undeb Ewropeaidd yn hawlio cael gwybod union swm yr arian mae Prydain am ei dalu am gael gadael yr Undeb, a hynny cyn dechrau ar y trafodaethau.
Bellach mae’r Prif Weinidog, Theresa May, wedi cynnig swm enfawr, ac er nad oes sicrwydd beth fydd y telerau, mae’n gyfrwng iddi symud ymlaen gyda’r trafodaethau.
Ers canlyniad y Refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, mae yna lawer o wybodaeth ychwanegol wedi dod i’r golwg na chafodd ei ddatgelu yn ystod ymgyrch y Refferendwm.
Mae hyn wedi dylanwadu ar lawer i newid eu barn ac am gael aros yn aelod o’r UE, gan ddweud y dylid cael refferendwm arall.
Yn ôl y Prif Weinidog, ni fyddai hyn yn bosib gan ei bod wedi cyhoeddi y bydd yna gytundeb wedi ei gwblhau i Brydain dorri cysylltiad ar Fawrth 29, 2019 am 11 o’r gloch y nos.
Tybed a all fod yna achubiaeth ar yr unfed awr ar ddeg yn sgil datganiad yr Arglwydd Kerr, cyn Brif Ddiplomat y Llywodraeth a Llysgennad i’r Undeb Ewropeaidd?
Fe hefyd oedd y pensaer a gyfansoddodd Erthygl 50 sydd wedi gosod i lawr amodau i unrhyw wlad a fyddai’n penderfynu torri i ffwrdd o’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd yr Arglwydd Kerr na ddylai pobl y Deyrnas Unedig a Chymru gael eu camarwain gan fod yna ryddid iddynt newid eu meddwl os ydy’r wybodaeth a gafwyd yn ystod ymgyrch Bexit yn wahanol i’r gwirionedd.
Rhaid cydnabod fod yna wybodaeth na ddatgelwyd adeg yr ymgyrch sy’n dyngedfennol i Gymru ac i’r diwydiant amaethyddol.
Tybed beth fydd effaith Brexit ar ein porthlddoedd o safbwynt amaethyddiaeth a thwristiaeth a’r penderfyniad ynglŷn â’r ffin rhwng Gweriniaeth yr Iwerddon a Gogledd Iwerddon?
Gall olygu na ddefnyddir porthladdoedd Abergwaun, Caergybi na Doc Penfro.
A beth fydd y toll ar allforio cynnyrch o Gymru? Tybed a ganiateir allforio anifeiliaid byw ar gyfer y lladd-dy?
Gyda rhai sectorau yn y diwydiant amaeth yn dibynnu’n gyfangwbl ar weithwyr tymhorol o tramor, gall yr ansicrwydd yma gael effaith andwyol ar ddyfodol y diwydiant amaeth yng Nghymru.