WELSH COLUMN
BU CYFFRO mawr yn Llundain yr wythnos hon gyda’r ffilm Star Wars newydd – The Last Jedi – yn cael ei ryddhau.
Gwn am rai o’m teulu sy’n ffoli ar ffilmiau o’r fath ond cafwyd yr un math o gyffro mae’n siwr gen i, ar draws y wlad gyda dramâu’r geni yn cael eu perfformio mewn ysgolion, capeli ac eglwysi.
Nid bod yna lawer o gysylltiad rhwng y ddau beth ond cafwyd doethion hefyd yn nrama’r geni yn dilyn seren arbennig gan ddyheu am rywbeth y tu hwnt i’n Daear ni.
Ac erbyn i chi ddarllen hwn, bydd Nasa, sefydliad sy’n archwilio i’r gofod, yn cyhoeddi darganfyddiad newydd gan Kepler, sbienddrych arbennig y gofod.
Yr awgrym yw y bydd yn datgelu allblaned efallai. Allblaned? Nefoedd wen! Nefoedd gogoniant?
Bu Kepler wrthi’n ddyfal ers 2009 yn hela. Ie, hela a wna y smotiau lleiaf rhyfeddol sy’n disgleirio pan fyddant yn croesi wyneb seren arbennig.
Hyd yn hyn, darganfu dros 2,500 o bosibiliadau o blanedau. Alla i ddim aros i glywed mwy.
Rhwng cwsg ac effro pa noson, clywais un o’r ymchwilwyr yn adrodd am y posibiliadau gan ddefnyddio “skyscraper” fel delwedd o’r hyn a welwyd.
Cofiwch, roeddwn yn hanner cysgu felly mae’n bosib i un stori oddiweddyd un arall ac i mi ddychmygu hyn yn fy mreuddwyd.
A sôn am freuddwyd, rwyf wrthi’n darllen breuddwydion Einstein felly mae’n bosib fy mod wedi cawlo’r syniad gyda’i feddyliau ef o amser, boed yn gylchog neu’n sefyll yn ei unfan.
Ond adeg yw hi i feddwl am y seren ryfeddol honno a wnaeth arwain y doethion, er mor anodd yw hi i gau allan sêr gwib ein byd real ni.
Ac mae eisie ryw oleuni newydd ar ffurf seren yn y Dwyrain Canol wedi i’r Arlywydd Trump gyhoeddi Jerwsalem yn brifddinas yr Iddewon heb gynnig unrhyw gymod i dir sathredig Palesteina.
Mae’n anodd rhagweld beth fydd effaith hyn eto. Tebyg y bydd yn cynhyrfu’r sefyllfa yno. Cafodd Israel dragwyddol heol i adeiladu tai ar dir sy’n anghyfreithlon. Oes, mae eisie doethion o’r dwyrain arnom a fydd yn cynnig goleuni ar y sefyllfa yno. O ble y daw seren gobaith tybed?
Ac fe gyhoeddodd yr Arlywydd ei fod am weld parhad yn y fenter i’r lleuad cyn symud ymlaen i blaned Mawrth.
Pan yw pethau’n edrych yn ddu ar y Ddaear, does dim byd fel codi eich golygon i’r entrychion i chwilio am ryw deyrnas newydd sydd heb ei difetha eto.
Does dim rhyfedd i rai ohonom ffoli ar fydoedd y tu hwnt i’n planed fach ni, boed hynny drwy wylio ffilmiau neu drwy sbienddrychau a dilyn y sêr.
Boed i chithau serennu, o lewyrch – yr un nefolaidd – adeg yr Ŵyl, a Nadolig Llawen iawn i chi gyd.