Diogelu ffurfiau rhanbarthol yr iaith
HOFFWN fynegi fy ngweledigaeth ar sut y gallem ddiwygio addysg cyfrwng Cymraeg trwy fabwysiadu tafodieithoedd rhanbarthol yr iaith Gymraeg fel rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru.
Cefais fy magu gyda’r Gymraeg fel iaith yr aelwyd. Fel teulu, rydym yn awyddus i ddiogelu ein ffordd o siarad Cymraeg ar lafar a hoffem i’r gymuned ddysgu amdano a’i ddefnyddio yn eu Cymraeg llafar hefyd os ydynt yn dymuno gwneud.
Er ei bod hi’n bwysig dysgu ffurf gywir y Gymraeg, rwy’n credu ei fod yr un mor bwysig i ddysgu am ddylanwad rhanbarthol ar y geiriau a ddefnyddir. Byddai mabwysiadu Cymraeg rhanbarthol fel rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn dod â synnwyr o ddiwylliant a hunaniaeth i ni fel siaradwyr yr iaith.
Yn aml, dywedir bod yr iaith Gymraeg yn marw, ond credaf nad ydyw. Nid yw’r iaith Gymraeg yn bendant yn marw, mae’r nifer o siaradwyr yr iaith yn cynyddu mae’n debyg. Ond mae llawer o dafodieithoedd rhanbarthol yng Nghymru yn marw ac mae angen eu cadw a’u trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
Efallai y bydd yr iaith Gymraeg yn marw fel iaith a siaredir y tu allan i’r ystafell ddosbarth ond mae hon yn ddadl wahanol am amser arall.
Ymhlith yr amrywiadau ar yr iaith Gymraeg yr hoffwn sôn am yr hyn yr ydych wedi clywed amdano, yw; Gwenhwyseg, Dyfedeg, Gwendodeg a Phowyseg. Hoffwn i bob rhanbarth o Gymru ddysgu, ac yn y pen draw, ddefnyddio’r math o Gymraeg sy’n gysylltiedig ag ardal Cymru y maent yn byw ynddi ac i ymfalchïo yn eu ffurf draddodiadol Gymreig leol.
A yw’n rhesymol awgrymu y dylem fod yn dysgu’r tafodieithoedd rhanbarthol hyn fel rhan hanfodol o ddysgu’r Gymraeg yn ein hysgolion cynradd ac uwchradd?
Dychmygwch Gymru lle’r oedd pawb ym Morgannwg yn dysgu Gwenhwyseg a Chymru lle’r oedd pawb yng Ngogledd Orllewin Cymru yn dysgu Gwendodeg.
Fel unigolyn sy’n siarad yr iaith Gymraeg gydag acen a geirfa sy’n gysylltiedig â Gorllewin Cymru gyda dylanwad amlwg o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, hoffwn weld parhad yr iaith yr wyf yn siarad â’m teulu ac nid yn unig parhad yr iaith Gymraeg yn ei ffurf gywir.
Mae’r Gymraeg yr wyf yn ei siarad yn cael dylanwadau a roddwyd gan yr ysgol, y capel a fynychais, ond yn bennaf gan fy nheulu. Mae’r holl agweddau hyn wedi cyfrannu at y ffordd yr wyf yn siarad Cymraeg.
Diben y llythyr hwn yw gwneud i bobl feddwl a yw’n bryd galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried fy ngalwad i ddiogelu ffurfiau rhanbarthol y Gymraeg trwy fabwysiadu tafodieithoedd Cymraeg fel rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru.
Dywedodd Saunders Lewis yn ei deyrnged enwog i’r Gymraeg, Tynged yr Iaith, nad oes pwrpas mewn Cymru annibynnol os bydd yr iaith Gymraeg yn marw ar ei thir. Tybed a oedd yn cyfeirio at dafodiaith yn ogystal? Aled Thomas Penarth