Bwgan y diciâu yn bwrw ei gysgod
HEB amheuaeth fe fu 2017 yn dipyn o flwyddyn gyda Brexit yn parhau yn gwmwl cymysglyd uwch ein pennau.
Mae’n siwr y bydd yr ansicrwydd gyda ni eto wrth i’r flwyddyn newydd ymestyn o’n blaen.
Bwgan arall fu’n bwrw ei gysgod a’i fygythiadau ar sawl ardal o Gymru yn ystod 2017 oedd y clefyd diciâu.
Wrth gofio hyn mae’n werth nodi mai un o’r cyhoeddiadau mwyaf ym myd amaeth y llynedd oedd i Lywodraeth Cymru gyhoeddi targed i geisio gwaredu’r diciâu mewn gwartheg yng Nghymru rhwng 2036 a 2041.
Bydd targedau ar gyfer cyfnodau o chwe’ blynedd yn cael eu pennu ar gyfer pob Ardal TB.
Y nod yw gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o TB a hefyd trosglwyddo Unedau Gorfodol o ardaloedd lle y ceir nifer is o achosion.
Gobaith y Llywodraeth yw bydd ardaloedd TB isel yn tyfu dros amser i feddiannu’r ardaloedd canolradd, a bydd ardaloedd TB uchel yn crebachu wrth i’r unedau gofodol gael eu symud i’r ardaloedd canolradd.
Ar ddiwedd pob cyfnod o chwe’ blynedd, caiff y cynnydd ei asesu a cherrig milltir eu gosod ar gyfer y cyfnod nesaf.
Yn ôl Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, maen nhw wedi cymryd camau breision yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddileu TB yng Nghymru a gwelwyd gostyngiad arwyddocaol yn nifer yr achosion ledled y wlad.
Mae angen bellach i ganolbwyntio ar amddiffyn yr Ardaloedd TB isel rhag i’r clefyd ledaenu iddynt o ardaloedd eraill a lleihau nifer yr achosion o’r clefyd yn yr ardaloedd canolradd ac uchel.
Mae’n sicr nad ar chwarae bach y cawn ni wared â’r clefyd dychrynllyd yma a bydd angen i bawb sy’n gysylltiedig â’r gwaith – y rhai hynny o fewn y Llywodraeth, APHA y diwydiant a milfeddygon wynebu’r her a gwneud popeth o fewn eu gallu i ddileu’r clefyd cyn gynted ag y bo modd.
Yn rhaglen gyntaf y flwyddyn newydd, byddwn yn ymweld ag enillydd Ysgoloriaeth Llyndy Isaf, Teleri Fielden, a byddwn yn ailymweld â Cain Owen sydd newydd orffen ei thymor cyntaf yn astudio Amaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddwn hefyd yn ymweld John Davies a’i deulu sy’n chwarae rhan bwysig yn adfywiad y Cŵn Defaid Cymreig.
Mae Rhys Jones yn aelod o dîm cynhyrchu Ffermio. Gallwch wylio Ffermio bob nos Lun a 9.30 neu ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill.