Western Mail

Cyfarchion y crwydryn yn parhau’n berthnasol

- Lloyd Jones

CARWN ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi oll yng ngeiriau’r crwydryn, Dafydd Jones o Fwlch-llan, Ceredigion.

Fe’i adnabyddid fel Dafydd Gwallt Hir gyda’i wallt du modrwyog hyd at ei ysgwydd a hwnnw bob amser yn disgleirio yn yr haul. Defnyddiai laeth i’w olchi er mwyn cael y sglein arno. Yn wahanol i grwydriaid eraill, tynnai gert neu debyg i droli a tho arno fel y defnyddir i gario parseli yng ngorsaf y rheilfford­d. Roedd yn berson hyddysg, yn fardd a darllenwr brwd o’i Feibl yn ddyddiol. Medrai leoli unrhyw adnod ar amrant.

Gyda’i gorff heini, medrai daflu ei goes dros ei ben. Galwai’n rheolaidd ar ein fferm gartref yn Llanddewi Brefi. Cysgai mewn gwely gwellt yn yr ysgubor gyda’i gert bob amser yn ei ymyl. Fel yr heneiddiai, roedd yn amlwg fod tynnu’r cert yn ormod iddo a cheisiwyd cael perswad arno i fynd i gartref hen bobol. Ei ateb: “Na, mae rhyddid caled yn well na chaethiwed esmwyth.”

Gan fod fy chwaer, Megan, a minnau yn ymddiddori mewn canu, fe gyfansoddo­dd eiriau pwrpasol i ni eu canu gyda’r delyn gogyfer a’r flwyddyn newydd. Penillion sydd heb eu cyhoeddi erioed ac er iddynt gael eu cyfansoddi yn y ’50au, mae’r gwirionedd­au llawn mor berthnasol heddiw. Dyma’r penillion air am air o’i lawysgrife­n: Dyma flwyddyn newydd eto Wedi gwawrio ar y byd, Blwyddyn nwydd ddymunaf A phob llwyddiant i chi gyd. Boed eich cwch dan nen ddi-gwmwl Hwylio’n hyf o don i don, A phleserus eich ymdeithion Yn y flwyddyn newydd hon. Dyma’r amser sydd gyfaddas Edrych nôl trwy’r dyddiau pell, Craffu’n fanwl ar ein gwallau Gwneud pob ymdrech byw yn well. Caru’n gilydd rydd esmwythder Hedd a mwynder i bob bron, Penderfynw­n barchu’n cyd-ddyn Yn y flwyddyn newydd hon. Boed i chwi a’ch teulu parchus Iechyd da ac oesau hir, Nerth i wyrthwyneb­u gorthrwm Nerth i sefyll dros y gwir, Nerth i feithryn frawdgarwc­h Trwy bob rhan o’r ddaear gron, Ac o nerth i nerth yr eloch Yn y flwyddyn newydd hon. Triged cariad, ffydd a gobaith Yn eich mynwes bob yr un. Rhinwedd rhain all wneud y gweledydd Fyw mewn undeb yn gytun. Boed i chi yr holl gusuron Wna iw’ch calon ddawnsio’n llon, Doed i ben eich holl obeithion Yn y flwyddyn newydd hon. dda gwir

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom