Western Mail

Y De ar y brig yn Nhreialon Cymru

- Lloyd Jones

DAW tymor Treialon Cŵn Defaid Cymru i ben ddiwedd pob blwyddyn gyda thîm o 15 o Gymdeithas y Gogledd a Chymdeitha­s y De yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am Darian Her y Western Mail. Bu’r darian yn gysylltied­ig â Threialon Cŵn Defaid Cymru ers 1945.

Tro’r Gogledd oedd llwyfannu’r digwyddiad eleni a rhaid cydnabod y pwyllgor am y trefniadau a gyfrannodd at lwyddiant y treialon a gynhaliwyd ym Mhenyfed, Corwen ar ddiwrnod dymunol iawn.

Mae’r treialon yma yn gyfrwng i ddenu pobl o bell, rhai o wledydd tramor, i weld y cŵn ifainc dan dair oed yn dangos eu dawn a’u medr.

Dyma gystadleua­eth lle gellir gweld cystadleuw­yr yn amrywio o 12 oed i 80 oed a throsodd, a bellach mae yna gynnydd yn nifer y merched sy’n cystadlu, a’r rheini llawn cystal â’r dynion.

Roedd y cwrs ar gae a oedd yn dipyn o her i’r cŵn ifainc. Gellid danfon y ci allan i gasglu’r pedwar dafad Gymreig croes Tecsel 300 llath i ffwrdd ar unrhyw ochr, ond gydag ychydig o frwyn ben ucha’r cae roedd yn achosi rhwystr i rai o’r cŵn.

Cafwyd rhediadau safonol iawn gyda’r defaid yn cymryd eu trafod yn eithriadol o dda.

Roedd hyn yn adlewyrchi­ad o ddawn eu perchennog, Bryn Davies, Bryneglwys a’i fab Arwyn, sy’n gystadleuw­yr brwdfrydig yn y treialon.

Roedd y mwyafrif yn cael trafferthi­on wrth gorlannu ac roedd rhaid wrth gi awdurdodol heb ddod yn rhy agos i’r defaid ac yn meddu ar y gallu i ddidoli yn hwylus.

Gyda rhediadau cyson safonol roedd yn foddhad i’r dyrfa luosog ac yn argoeli dyfodol llwyddiann­us i Dreialon Cŵn Defaid Cymru.

Llwyddodd tair merch i gyrraedd y chwe cyntaf gyda’r De yn ennill Tarian y Western Mail am y drydedd flwyddyn yn olynol, a hynny bron 100 o bwyntiau ar y blaen.

Pencampwr y dydd oedd Sophie Holt o Libanus gyda Jet, yn colli 11 o farciau; 2. Robert Ellis, Nantymoel gyda Bronallt Sweep (colli 13); 3. Dr Angie Driscoll, Llanllawdd­og gyda Kinloch Ciaran (colli 14); 4. Jane Drinkwater, Llanbedr Pont Steffan gyda Kim (colli 15 OLF); 5. Kevin Evans, libanus gyda Tim (colli 15); Teifion Morgan, Mwnt gyda Kennox Tess (colli 16) – tipyn o anrhydedd iddo ac yntau ond yn 16 oed, yn enwedig gan fod y pump cyntaf yn gystadleuw­yr rhyngwlado­l.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom