Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

“A fo ben bid bont” oedd arwyddair fy hen ysgol ym Mhontardaw­e slawer dydd. Ac mae e’n sylw gwych, ac er yn eco o’r hen Bendigeidf­ran yn llunio pont o’i gorff, mae’n dal yn berthnasol heddi.

Ond sawl arweinydd sydd hefyd yn bont yn ein cyfnod ni? Ac mae eu hangen yn ddifrifol arnom.

Ond wrth feddwl am bont, rwy’n cael fy nghario nôl i bont Henllan, lle byddwn yn pwyso dros y bont ac yn edrych i lawr ar y llif.

Byddai fy nhad yn mynnu fy mod yn sylwi ar y pwll tro gan dynnu sylw at y chwrligwga­n oedd yn arnofio ar ei wyneb. Unwaith y bydd y pwll wedi ei ddal, i lawr yr aiff e, meddai.

A sawl gwleidydd a welsom yn yr wythnosau a aeth heibio a geisiodd fod yn bont, dim ond i gael eu llyncu fel pry’ bach ar wyneb y trobwll?

Eisie bod yn bont oedd arweinydd Ukip druan, cyn iddo gael ei ddal yn dal dwylo gyda’r hon oedd i fod yn gyngariad iddo, gan fynnu wedyn bod y berthynas “on hold”. Ond pryfetyn bach yw e ac nid trobwll ond merbwll gwyrddllyd.

Mwy rhyfedd o lawer yw’r pry llwyd Boris Johnson a fynnodd y gellid adeiladu pont dros y Sianel rhwng “Prydain” a Ffrainc gan mai dim ond 22 milltir sydd rhyngom.

Dyna arch-losgwr pont rhyngom ni ac Ewrop yn awr am gwtsho lan i gôl Ffrainc. Gôl yn wir!

Cafodd ei roi yn ei le gan rai a wnaeth ei atgoffa o’r holl longau sy’n mynd a dod dros y Sianel yn flynyddol. (Ai dyna pam yr awgrymodd £100m yr wythnos i’r Gwasanaeth Iechyd er mwyn i rai anghofio’r cam gwag ddiwrnodau yn gynt?)

Ai pont o fath arall fydd yn ein disgwyl os digwydd Brexit, un llawn ffiniau yr ochr draw, yn fisas ac yn basborts?

Bu fy mhasbort yn gysur i mi hyd yn hyn, ond cyn hir? Nid pont fydd hi i gael “rhwyddfyne­diad a chymorth” fel y noda’r geiriau ar y blaenddale­n.

A dyna ni eto yn gorfod brwydro i gael yr iaith Gymraeg wedi ei chydnabod ar y pasbort glas sydd yn yr arfaeth.

Daw newidiadau i fod ar Bont Hafren eleni wrth i’r toll gael ei leihau (neu ei ddiddymu maes o law?)

Ond dyma gloi wrth feddwl am bont gain, heb doll yn y byd, a phennill a luniais yn dilyn comisiwn i bont newydd yn Lledr, Dolwyddela­n, lle bu pont Rufeinig unwaith:

Fe groeswn bontydd bywyd,/Cyn nodi a’u codi o’r newydd/,Er cerrig rhyd yn eu hyd islaw/Ein troedle’n ynys, heb frys, heb fraw.

Mae’r Athro Menna Elfyn yn Athro Barddoniae­th ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom