Rhannu neges bositif am y diwydiant llaeth
Un gair sydd wedi amlygu ei hun o fewn y diwydiant amaeth yn ddiweddar yw Feganiaeth.
Mae wedi achosi llawer o gynnwrf ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd, yn enwedig oherwydd “Veganuary” lle y gwnaeth 167,000 o bobl gytuno i ddilyn ffordd fegan o fyw am fis cyfan.
Roedd hyn yn golygu yn bennaf bwyta bwyd llysieuol – dim cig, dim cynnyrch llaeth a llawer mwy.
Nid y ffaith fod rhai pobl eisiau dilyn y ffordd yma o fyw sy’n poeni ffermwyr, ond y ffaith fod canran fechan o’r feganwyr yn ymddwyn mewn modd eithafol ac yn aml yn hynod o fygythiol.
Mae posteri yn cynnwys geiriau fel “Dairy is Scary” a “Humane milk is a myth” wedi bod yn cael eu dosbarthu a sawl fideo o ffermwyr yn camdrin anifeiliaid, gan honni mai dyma’r arfer ar bob fferm.
Mae negeseuon yn cael eu postio yn galw ffermwyr yn “llofruddwyr” a “threiswyr” gyda ffeithiau camarweiniol yn cael eu rhannu.
Fel ymhob diwydiant mae’n siŵr fod rhai eithriadau i’r mwyafrif – rhai ffermwyr sydd efallai yn torri rheolau ac yn gwneud pethau na ddylent.
Ond, o brofiad personol, ac o ymchwilio llawer i arferion ffermwyr yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn angerddol dros yr hyn maen nhw yn ei wneud ac yn rhoi eu holl ymdrech i’r gwaith.
Eu hanifeiliaid sydd yn dod gyntaf bob tro, ac yn amlach na pheidio, mae lles eu hanifeiliaid yn dod cyn nhw eu hunain. Mae hyn heb sôn wrth gwrs am y rheolau lles anifeiliaid llym sydd mewn grym yn y Deyrnas Unedig.
Ond, y broblem yw nad yw’r neges yma wedi bod yn ddigon cryf yn y gorffennol.
Er mai dim ond 2% o’r boblogaeth sydd yn feganwyr, mae llais yr eithafwyr (sydd yn ganran hyd yn oed yn llai eto) yn uwch na llais y ffermwyr.
Felly, y mis hwn, mae ffermwyr wedi penderfynu creu hashnod newydd eu hunan sef #februdairy.
Y bwriad yw rhannu neges bositif am y diwydiant llaeth bob dydd ym mis Chwefror ar y cyfryngau cymdeithasol, gan arwyddo’r post gyda #februdairy.
Y cyngor sydd yna i ffermwyr, ac unrhywun arall sydd eisiau hyrwyddo’r diwydiant, yw peidio ag ymladd yn ôl yn fygythiol. Y bwriad yw rhannu ffeithiau go iawn, lluniau o fywyd bob dydd er mwyn addysgu’r genedl am y diwydiant, a dangos beth yn union sy’n mynd ymlaen.
Mae rhai lluniau/ fideos yn cynnwys bwydo gwartheg, godro, “selfies” gyda gwartheg a lloi, llaeth ffres ar y bwrdd a chynnyrch llaeth dydd i ddydd. Cyn belled mae’r ymgyrch wedi gweithio’n dda, gyda ffermwyr yn cael llawer o gefnogaeth gan bobl eraill.
Gyda sawl wythnos i fynd eto, mae’r gobaith o fewn y diwydiant i’r ymgyrch fynd o nerth i nerth gan addysgu’r genedl y ffordd iawn. Mae’n rhaid cadw’n bositif a goresgyn y sialens hon, er mwyn sicrhau’r gorau i bawb.
Bydd Ffermio yn bwrw golwg ar yr ymgyrch Februdairy yn ystod yr wythnosau nesaf ynghyd â gwastraff plastig ar ffermydd, ymweld â Sioe Dairy Tech a Sioe Botensials Aberhonddu. Cofiwch wylio, a diolch i chi am wylio cyn belled eleni.
Mae Angharad Menna yn aelod o dîm cynhyrchu’r gyfres Ffermio. Gallwch wylio Ffermio bob nos Lun am 9.30yh ar S4C ac ar alw arlein ar s4c.cymru am 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf