Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

OEDD yna foi ar y ffôn y diwrnod o’r blaen, yn holi fy marn i am hyn a’r llall. Un o’r polwyr bondigrybw­yll.

Fel rheol, mi fydda i’n ffeindio rhyw esgus i osgoi ateb ond, y tro yma, wnes i ddim. Ac mewn ffordd, er i fi golli pum munud o fywyd yn gwneud, dw i’n falch.

Ymhlith y cwestiynau, roedd yna un am drethi a’r Gwasanaeth Iechyd... y cwestiwn clasurol, a fyddech chi’n fodlon talu rhagor o drethi er mwyn cynnal y Gwasanaeth Iechyd?

Roedd fy ateb i yr un peth ag y buodd o erioed – byddwn. Ond, ers Dydd Gŵyl Dewi, dw i’n gwybod yn union pam.

Yn yr union fan lle y dylwn i fod yn gwisgo cennin Pedr, mi ges i declyn bach i wneud yn siŵr fod fy nghalon yn curo fel watsh, a’i gael heb dalu dimai.

Doedd dim rhaid i fi aros – am fod yr achos yn glir a’r angen yn amlwg, mi drodd olwynion y peiriant fel mêl a phob cam yn effeithiol a gofalus.

Am bob math o resymau, mi ro’n i’n lwcus ond roedd fy mhrofiad i’n dangos beth mae gwasanaeth fel hwn yn gallu’i wneud pan fydd yr amodau’n iawn a’r staff yn cael gwneud eu gwaith.

Roedd hyd yn oed yr eira’n help; oherwydd hwnnw, doedd yna ddim clinigau allanol – roedd y meddygon yn rhydd ac roedd yna welyau ar gael, fel y dylai fod.

Pan fyddwn ni’n lladd ar y gwasanaeth, mae’n hawdd iawn anghofio rhyfeddod y peth; fod y fath help ar gael i achub bywyd a chywiro problem, o ambiwlans i theatr a ward.

Mae hyn i gyd yn digwydd am fod pobol yn union wedi’r Ail Ryfel Byd wedi gweld gwerth cydymdrech­u er lles pawb – pan fydd y ddelfryd honno’n cael cyfle i weithio, mae’r un mor werthfawr heddiw.

Wrth gwrs fod yna waith i’w wneud, o ran rhai o’r manion pwysig ac o ran sicrhau bod defnyddio’r Gymraeg yn ddewis hawdd a naturiol.

Wrth gwrs fod yna broblemau mawr o ran trefn a strwythur ac adnoddau ac annhegwch iechyd preifat, ond nid ar y ddelfryd y mae’r bai am bethau gwleidyddo­l felly.

Does dim angen gwneud buwch sanctaidd o’r Gwasanaeth Iechyd i ymladd trosto, dim ond cydnabod realiti yr hyn y mae’n ei wneud.

Mi fydd llawer o bobol, fel fi, yn dweud wrth bolwyr piniwn y bydden nhw’n fodlon talu rhagor o drethi ond, pan ddaw hi’n fater o bleidleisi­o, pleidiau torri trethi sy’n ennill.

Ac mae’r syniad o dalu yn ôl eich gallu wedi hen fynd a threthi ar y cyfoethog yn is heddiw nag yr oedden nhw hyd yn oed yn nyddiau Thatcher.

Mi allwn i – ac mi allen nhw – dalu llawer mwy. Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddw­r Golwg a Golwg 360

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom