Annog gweithwyr i gystadlu yng nghystadleuaeth sgiliau fwyaf y DU
MAE cwmni gwella prosesau gweithgynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn annog busnesau yng Nghymru i gofrestru eu gweithwyr i gystadlu yn WorldSkills UK.
Mae Probe RTS yn cynnig cyngor a hyfforddiant ac mae ei dîm datblygu apiau ar y we yn tyfu.
Yn ddiweddar, mae’r cwmni wedi cyflogi Alfie Hopkin, cyn aelod o Dîm WorldSkills y DU a deithiodd i Abu Dhabi yn 2017 i gynrychioli’r DU fel arbenigwr ar ddylunio’r we, gan gystadlu yn erbyn mwy na 50 o genhedloedd eraill.
Meddai Lynn, cyfarwyddwr Probe RTS: “Rydym ni wedi ennill gweithiwr rhagorol yn Alfie. Mae’n gaffaeliad go iawn i’n tîm ac yn ein helpu i allu cynnig mwy i gleientiaid gyda’r sgiliau newydd y mae’n eu cyfrannu at y busnes.
“Roedd ei brofiad fel cystadleuydd WorldSkills yn gwneud iddo sefyll allan.”
Meddai Alfie: “Mae WorldSkills wedi fy rhoi mewn llawer gwell sefyllfa na’r rhan fwyaf o bobl ifanc yr un oed â mi.”
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, mae WorldSkills UK yn hyrwyddo pwysigrwydd datblygu gweithlu medrus iawn ac unigolion o safon fyd-eang.
Meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: “Byddwn yn annog pob cyflogwr i ystyried buddsoddi yng ngweithlu’r dyfodol drwy WorldSkills.”