WELSH COLUMN
YN YR oes ryfedd sydd ohoni, mae eisiau edrych ar ambell ddyn dewr i gadw ein ffydd mewn dynoliaeth. Dyn felly oedd y Cymro Cymraeg a’r ffotograffydd byd enwog Philip Jones Grifiths a hyfryd yw gweld cyhoeddi cofiant ynghyd â rhai o’i luniau.
Gwasg y Lolfa yw cyhoeddwr y gyfrol Philip Jones Griffiths, ei Fywyd a’i Luniau, ac mae’r diolch i Ioan Roberts am olrhain y gwaith mor ofalus.
Meddai’r ffotograffydd mai “taenu goleuni ar ddarnau tywyll o’r byd” oedd ei fwriad. Onid yw’r geiriau hynny yn taro ni heddiw yn hynod o amserol wrth i ni ymdopi â nwyon nerfol anhysbys? Hynny, a rhyw gwmni rhyfedd fel Cambridge Analytica. Hawdd troi’n amheuwr parhaus.
Nid felly Philip. Falle mai lluniau yw’r mwyaf pwerus o arfogaeth wedi’r cyfan. Rwy’n aml wedi dweud mai gweld lluniau ar deledu o blant yn cael eu llosgi gan napalm yn Fiet-Nam a’m gyrrodd i ysgrifennu cerddi. Ac roedd lluniau Philip Jones Griffiths yr un mor ddylanwadol yn y ffordd y cyfrannodd at newid agwedd pobl America tuag at y rhyfel erchyll. Ac ni allai gael gwell canmoliaeth na geiriau’r ffotograffydd nodedig Henri Cartier-Bresson a fynnodd nad oedd neb “ers Goya wedi portreadu rhyfel fel y gwnaeth Philip Jones Griffiths”.
Rhaid cyfaddef i mi golli cyfle i’w gyfarfod wrth wneud ymchwil ar Fiet-Nam a mynd yno ddwywaith am rai wythnosau i wneud rhaglen ddogfen. Rhyw ofnusrwydd ar fy rhan hwyrach ynghyd â theimlo parchedig ofn o’r dyn a lwyddodd i ddeffro a newid meddyliau rhai am y rhyfel. Fy ngholled i ydoedd ond dyma fi nawr yn cael pori yn y llyfr hwn a sylweddoli dyn mor ffraeth a gwylaidd ydoedd, a Chymro balch o’i wreiddiau. Da gweld bod plac bellach ar Monfa, a chydnabyddiaeth i’w fan geni yn Lôn Hylas, Rhuddlan.
Dyneiddiwch. Hynny, yn ei “gydymdeimlad greddfol gyda’r gwan” – oes, mae eisie sawl Philip Jones Griffiths arnom y dyddiau hyn wrth i wleidyddiaeth y byd droi’n sobr o oer ac ansicr. Ymhen y mis, byddaf mewn gŵyl lyfrau yn Llundain yn darllen gyda bardd enwog o Rwsia. Edrychaf ymlaen at y ddeialog a fydd rhyngom gan lawenhau bod y bont rhwng llenyddiaeth yn parhau ar agor heb yr un tollau.
Yn y dyddiau hyn pan mae peryglon nwyau nerfol yn cael eu hystyried yn droseddau yn erbyn dynoliaeth, anodd yw credu pa mor hir y bu i’r byd ddeffro i sylweddoli effeithiau “agent orange” ar bobl Fiet-Nam a’r sgil effeithiau hyd heddiw ar rai sydd wedi eu geni gydag anableddau difrifol.
Mae diolch y byd i Philip Jones Griffiths a ffotograffwyr tebyg sydd yn peryglu eu bywydau yn feunyddiol i ddwyn y gwirionedd i ni. A thrwy hynny ein newid gobeithio – i newid y drefn sy’n bodoli.
Mae’r Athro Menna Elfyn yn Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant