Western Mail

Y gwanwyn, gwae’r cwarantîn a’r gampfa

- Angharad Menna

WEL, dyma hi yn fis Ebrill yn barod – gobeithio’ch bod wedi cael Pasg hyfryd.

Er bod y gwanwyn yma, nid yw’n teimlo cweit felly i mi eto! Mae’r tywydd yn parhau i fod yn oeraidd gyda’r gwartheg yn dal i mewn – ac nid yw’n edrych yn debyg y byddant allan am ychydig eto. Lwcus i ni fod yna ddigon o silwair ar ôl yn y clamp, er nad yw hyn yn wir i bawb.

Rydym ni yn nhîm Ffermio wedi bod yn siarad gyda llawer o ffermwyr sydd yn ysu i gael eu gwartheg allan am fod y silwair wedi gorffen neu nad oes llawer ar ôl.

Mae nifer hefyd wrth gwrs yn dal eisiau cael slyri allan ar y caeau, ond mae’r glaw yn ei gwneud hi’n anodd.

Ar Ffermio yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn ni’n edrych ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o wasgaru slyri mewn modd na fydd yn niweidio’r amgylchedd.

Er y tywydd oer a glwyb, un peth sydd yn braf yw’r nosweithia­u goleuach a’r ffaith fod y dyddiau’n ymestyn. Mae’n hynod o braf dod adref o’r gwaith a hithau’n dal yn olau.

Cyn hir, fe fydd tymor y sioeau’n dechrau – ond mae yna bryder ym myd y sioeau bach yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae rheolau newydd yr Unedau Cwarantîn yn dod i mewn eleni sydd yn golygu na fydd hawl gwneud unrhyw symudiadau da byw tan fod y cyfnod segur chwe’ niwrnod wedi pasio, heblaw fod yna uned cwarantîn ar y fferm.

Mae hyn yn golygu na fydd ynysu’r anifeiliai­d, fel sydd wedi bod yn digwydd yn y gorffennol, yn ddigon. Mae rheolau llym i’r unedau cwarantîn yma ynghyd â chost i sicrhau fod yr unedau yn pasio. Mae nifer yn pryderu y bydd hyn yn atal llawer rhag mynychu sioeau lleol. Bydd Alun yn archwilio’r mater yn fuan ar Ffermio.

Rhywbeth arall fyddwn yn archwilio yw’r nifer o bobl ifanc sydd yn gadael cefn gwlad, a’r nifer sy’n aros neu’n dychwelyd, a pham.

Un stori dda ac enghraifft unigryw iawn o arallgyfei­rio yw’r ffermwr a’r hyfforddwr personol Rhys Jones o Geredigion sydd wedi dechrau campfa ei hun ar ei fferm. Mae’n mynd o nerth i nerth – Daloni fu draw i ddarganfod mwy.

Cofiwch wylio felly.

■ Mae Angharad Menna yn aelod o dîm cynhyrchu’r gyfres Ffermio. Gallwch wylio Ffermio bob nos Lun am 9.30yh ar S4C ac ar alw arlein ar s4c.cymru am 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf.

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom