Torfaen – lle i leoli eich busnes
DYW mentergarwch ac arloesi ddim yn ddieithr i Dorfaen, sy’n cynnwys trefi Cwmbrân, Pont-y-pwˆl a Blaenafon. Unwaith yn galon y Chwyldro Diwydiannol, mae Torfaen yn y cyfnod modern wedi croesawu busnesau sy’n gweithio ar draws nifer o sectorau gan gynnwys cynhyrchu, adeiladu, gwasanaethau, manwerthu, arian a busnes, dosbarthu, cysylltiadau a thrafnidiaeth.
Mae’r ardal yn dal i ddatblygu ei heconomi amrywiol gan gefnogi twf busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth. Fel cartref i Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon a chydag enw da cynyddol fel cyrchfan i ymwelwyr mae Torfaen hefyd wedi gweld cynnydd yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.
Mae cysylltiadau ffyrdd, rheilffordd ac awyr gwych ynghyd â seilwaith digidol soffistigedig yn sicrhau bod busnesau yn Nhorfaen yn gallu gweithredu ar y llwyfan cenedlaethol a byd-eang.
Mae Torfaen yn cynnig amrywiaeth o safleoedd yn cynnwys safleoedd ar gyfer manwerthu a swyddfeydd yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu ac unedau diwydiannol bach a mawr. Mae Canolfan Arloesi Busnes Springboard – Cymru, Cwmbrân, yn croesawu busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg â thwf uchel a phrosiectau buddsoddi mewnol. Yn ogystal, mae Torfaen yn falch o‘r sgiliau a’r arbenigedd yn y gweithlu lleol.
Mae gan Economi a Mentergarwch Torfaen record o gefnogi busnesau wrth iddyn nhw symud i Dorfaen. Mae’r tîm yn cynnig gwasanaeth pwrpasol, am ddim sy’n cynnwys cefnogaeth gydag arian, cynllunio a chael hyd i safle ac eiddo addas at recriwtio a chael gafael ar y sgiliau cywir yn lleol.
Gall busnesau yn Nhorfaen gymryd mantais o amrywiaeth o wasanaethau cefnogol a chyfleoedd.