WELSH COLUMN
BUSNESU, neu gadw draw?
Oedd bywyd yn hawdd erstalwm. Ni o eddy bob olddaacro eddy bob old drwg yn hawdd eu nabod.
Cowboisanindians. Britishanjyrmans. Dim problem.
Be ll ach,w rt hiwl ed yd dy Gorllewin ystyried unwaith eto a ddylen nhw ymyrryd efo gynnau a bomiau yn
y Dwyrain Canol, mae pethau’n ddryswch i gyd. Ac, os bydd aelodau seneddol yn gorfod pleidleisio ar
hyn, mi fydd yn boen meddwl gwirioneddol i lawer ohonyn nhw.
Os llywodraeth Syria sy’n gyfrifol am ddefnyddio arfau cemegol yn y wlad, mi fydd peidio ag ymateb fel
petai’n rhoi rhwydd hynt iddi wneud yr un peth eto. Ond mi allai ymyrryd wneud pethau’n waeth ac
arwain at filoedd o farwolaethau a miloedd rhagor o ffoaduriaid.
Ymyrryd ydi’r gair mawr. Mae hwnnw’n awgry mug wt hioeichtrwy ni me w ni fusnes rhywun arall;
gweithredu pan ddylech chi gadw draw. A’r broblem sylfaenol ydi ein bod ni wedi gwneud llawer g or modoymyrr yd arhy dy canrifoedd. Penbleth wedyn wrth feddwl am yr ymosodiad nerfol yn Salisbury. Ydi hi’n rhy hawdd beio Rwsia? A oes
angen prawf hollol bendant neu a ydi amau’n ddigon? Ac ai gwallgofrwydd ydi meddwl y gallai
gwasanaethau cudd rhyw wlad arall – hyd yn oed wledydd Prydain – wneud y ffasiwn beth?
O edrych ar hanes, mi allwn ddweud yn eitha’ pendant bod fwy neu lai popeth yn bosib. Naïfrwydd llwyr
fyddai meddwl nad ydi Vladimir Putin yn Rwsia’n gallu ymddwyn yn giaidd ond, oOgleddI we rd do ni
Balesteinia, mae yna ddigon o achosion o driciau budr gan ein ‘pobol ni’ hefyd.
Dydi hanes ein hymyrraeth ni yn y Dwyrain Canol ddim yn esmwyth i’w ddarllen, oRyfe lo eddy Groes
bron fil o flynyddoedd yn ôl i’r rhyfeloedd olew heddiw. Ac, er fod pob math o esgusodion eraill, elw neu
les hunanol ydi’r prif ysgogiad tros ymyrryd.
Un o’r gêmau y gallwch chi eu chwarae efo hanes ydi dychymgu ‘petai, petasai’ - beth fyddai’r
canlyniadau pe bai digwyddiadau wedi bod yn wahanol. Gogoniant y gêm ydi na fydd neb fyth yn gwybod yr ateb.
Wyddon ni ddim, felly, a fyddai pethau’n well neu’n waeth rhwng Sunni a Shiha yn y byd Mwslemaidd pe
na bai gwledydd mawr y Gorllewin wedi bod â’u bys yn y briwes a wyddon ni ddim a fyddai Iddewon
wedi gallu setlo’n fwy heddychlon ym Mhalesteina ddyddiau fu.
Yr hyn sy’n sicr ydi fod gwledydd fel Prydain wedi cymryd mantais ofnadwy ar
■ Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360