Cymry ar y brig yn y treialon Ewropeaidd
CHWIFIWYD baner Cymru yn uwch nag erioed yn y Treialon Cŵn Defaid Meithrin Ewropeaidd i gŵn dan ddwy oed. Fe’u cynhelir bob blwyddyn ers y dechrau yn 2011 ar fferm Serge van der Zweep a’i wraig Hellen yn Heteren, dwyrain yr Iseldiroedd. Fe fu’n gyfrifol am sefydlu’r treialon a’u noddi bob blwyddyn, gan ddarparu gwledd o groeso i’r cystadleuwyr oll cyn y treialon.
Cyhoedda raglen liwgar ar gyfer y gwylwyr gyda’r gofynion angenrheidiol o ran achau’r cŵn a llun lliw o bob ci sy’n cystadlu. Sylwir fod cymaint o ferched ymhlith yr enwau, sydd bellach llawn cystal â’r dynion.
Mae wedi addasu un o adeiladau’r fferm fel canolfan i gynnal clinigau i hyfforddi pobl i ddysgu cŵn ar gyfer treialon cŵn defaid.
Cyfeiria bob amser at ddylanwad gŵr o Geredigion, Jim Jones, Brynrychain, Llanfarian arno ac mae wedi galw ei fridfa a’r ganolfan yn “Llanfarian Border Collies”.
Yn nodweddiadol o’r wlad, mae’r tir lle cynhaliwyd y treialon yn hollol wastad ond roedd wyneb y tir braidd yn wlyb oherwydd y glaw trwm roeddent hwythau wedi ei gael yn ystod y gaeaf.
Dywedodd y diweddar Gwyn Jones, Penmachno, arbenigwr yn y grefft dreialon, yn ei lyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar fod ci yn fwy tebygol o groesi’r cwrs wrth gyrchu defaid ar gae gwastad.
Roedd yn ofynnol i’r cŵn redeg ddwywaith, gyda’r 15 ci a’r marciau uchaf am y ddwy rediad yn cael y cyfle i fynd ymlaen am y bencampwriaeth.
Llwyddodd pum Cymro, allan o 180 o rediadau o 20 gwlad, i fod yn y prawf terfynol.
Gyda thipyn o law wedi disgyn y noson cynt, roedd yna lynwenni o ddŵr ar hyd y cwrs gyda’r cylch didoli yn fwdlyd iawn. Roedd yn amlwg fod yn rhaid cael ci pwerus a fedrai ddangos awdurdod i yrru’r pum dafad o amgylch y cwrs os am gael llinellau syth a dal y clwydi.
Cafwyd rhediadau safonol iawn dros y tridiau.
Y pencampwr oedd Kevin Evans o Frycheiniog gyda Derwen Doug. Dyma’r pedwerydd tro iddo ennill y bencampwriaeth. Fe hefyd oedd yn ail gyda Lass.
3. Jaran Knive o Norwy gyda Don, cystadleuydd llwyddiannus arall;
4. Karin Bilstad o Norwy gyda Ropper;
5. Nigel Watkins o Sir Gaerfyrddin gyda Ben;
6. Sophie Holt, eto o Frycheiniog, gyda Jet.
Llongyfarchiadau iddynt oll.