WELSH COLUMN
CEMEG oedd fy nhestun gwaethaf yn yr ysgol. Hynny yw, ar wahân i wybod beth oedd “bunsen burner”, ddysges i fawr ddim byd arall ond bod yna ddrewdod bob tro yr awn i mewn i’r stafell Gemeg.
Roedd yno dechnegydd hefyd a oedd yn cadw’r lle, am wn i, rhag cael ei chwythu i ddifancoll gan ddisgyblion analluog. Rhyfedd iawn felly fy mod yn cymryd diddordeb arbennig mewn gwyddoniaeth poblogaidd ac yn prynu llyfrau gan arbenigwyr nad wyf yn eu deall ond yn gwrthod ag ildio arnynt ychwaith.
Ond roedd clywed am y bomio yn Syria yn destun a wnaeth fy atgoffa o’r drewdod bore oes yn y labordy ysgol. Cyn hynny wrth gwrs, gweld y dioddefwyr yno yn ymladd am an adl.Ondihyn yd awmewn gwaed oer. Sawl ysbyty a dargedwyd gan Assad – sawl ysgol a fflatiau a fomiwyd heb i’r Gorllewin ymateb?
Dyw bomiau “nice” na “smart” Trump wedi newid dim ar y sefyllfa sydd yno. Dim ond edrych ar yr adfeilion sydd ei angen i deimlo i’r byd fethu (ie, ni) yn anobeithiol i wasgu ar yr awdurdodau.
Weithiau mae llythyr byr gan berson o’r cyhoedd yn taro deuddeg gen i. Fel y person a wnaeth ysgrifennu i’r Western Mail dydd Mawrth yma yn gofyn hyn: Os mai targedu mannau sy’n cadw arfau cemegol i ladd pobl sydd yn yr adeiladau a dargedwyd, sut yn y byd na ollyngwyd nwyon di-dor i’r awyr a lladd miloedd yn fwy?
Yr ateb siwr o fod yw mai adeiladau gweigion oeddynt a phob dim wedi ei gythru oddi yno cyn i’r bomio ddigwydd. Yn yr un modd, dim ond dydd Mercher mae arbenigwyr yn cael mynediad i brofi’r cemegau – er iddynt fod yn aros am wneud hynny ers dydd Sadwrn. Digon o am serynwirisy mud pobcemegyn o’r golwg.
Bûm yn meddwl llawer am y gair “shiboleth” yn ddiweddar ar ôl i Barry Gardiner awgrymu mai “shiboleth” oeddydd ad lamyf fin rhwnggogledd Iwerddon a de Iwerddon. Ydi e’n gwybod ei ystyr holodd rhai er mai ei gred oedd dweud mai rhywbeth hen ydoedd heb gyfrif mwyach.
Gair Hebraeg yw am “glust o ŷd” neu “nant mewn dilyw” ond yn bwysicach yn y Beibl fe’i ddefnyddiwyd i adnabod gelynion yn stori Jepthah.
Gelynion? Estroniaid? Ffoaduriaid? Neu ai gair sydd yn addas ar gyfer y rhai a ddaeth yma 70 mlynedd yn ôl o’r hen ymerodraeth Brydeinig i gael gwell byd? Y mae’ rf faith i Theresa Mayunwai th ddefnyddio’r gair “hostile” wrth geisio cwtogi mewnlifiad yn air sydd yr un mor lwythog a “shiboleth”.
A fydd raid i Gymry groesi pont a elwir yn Bont Tywysog Cymru a phasio prawf “siboleth” tybed? Wfft i shwd grefft.
■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
walesonline/cymraeg