Gofid cwarantin a dyfodol pobl ifanc yng nghefn gwlad
O’R DIWEDD, ar ôl cyfnod o law diddiwedd, eira a thywydd go shimpyl a dweud y gwir – mae’r haul wedi ymddangos, a dw i’n siŵr bod pawb yn falch iawn o’i weld.
Gobeithio y bydd pethau’n rhwyddach ar y ffermydd dros y misoedd nesaf, a bydd yna fwy o gyfle i bawb i adael buarth y fferm.
Fel y clywsom ni neithiwr ar Ffermio, un o ddigwyddiadau sy’n denu’r torfeydd, ac sy’n ysbaid i nifer o drigolion cefn gwlad, yw’r sioeau lleol.
Roedd safon y stoc o wartheg godro yn y Sioe Laeth Geltaidd yn werth i’w gweld – ac roedd hi’n braf i weld y to iau yn frwdfrydig dros baratoi a dangos eu hanifeiliaid.
Ond mae yna bryder mawr am ddyfodol y sioeau bach wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno system unedau cwarantin. Ers i’r system ddod i rym – dim ond 70 o ffermydd sydd wedi eu cymeradwyo – ac i’r rhai sydd heb uned bydd mynd i ddwy sioe mewn wythnos yn amhosib.
Bwriad y system newydd yw diogelu ffermydd rhag afiechydon a heintiau allanol – gobeithio y bydd yna ffordd y gall y diwydiant fedru cydweithio fel bod neb yn colli allan.
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn edrych ar sefyllfa pobl ifanc yng nghefn gwlad – a ffordd i’w denu yn ôl i’w cynefin. Mae yna nifer o ffactorau pam fod pobl ifanc yn gadael cefn gwlad – gwaith, eisiau profi diwylliant gwahanol, mwy o gyfleoedd ac arian – a byddwn ni’n holi rhai sydd wedi gadael a rhai sydd wedi dychwelyd.
Hefyd, yng nghanol yr holl doriadau i wasanaethau, un sydd wedi dioddef yw Mudiad y Ffermwyr Ifanc, a byddwn ni yn Niwrnod Gwaith Maes Cymru yn holi – beth yw gwerth y ffermwyr ifanc i gefn gwlad?
Nos Lun ar Ffermio, byddwn yn clywed stori Hefin a Lucy Owen o Gastell Newydd Emlyn am eu hunllef gyda’r clefyd TB ymysg eu da.
■ Mae Gwawr Lewis yn gynhyrchydd cyfres Ffermio. Gallwch wylio Ffermio bob nos Lun am 9.30yh ar S4C ac ar alw arlein ar s4c.cymru am 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf.