Western Mail

Gwneuthurw­r seddau awyrennau Torfaen yn ffynnu

-

MAE Torfaen wedi hen arfer gyda menter ac arloesi. Unwaith wrth graidd y Chwyldro Diwydianno­l, mae Torfaen yn yr oes fodern wedi arallgyfei­rio ei heconomi trwy groesawu busnesau sy’n gweithredu ar draws amrywiol sectorau gan gynnwys cyfathrebu, gweithgynh­yrchu, dosbarthu, TG, cludiant ac awyrennau ac mae’n ymroddedig i gefnogi busnesau arloesol a rhai sy’n seiliedig ar wybodaeth.

Yn gartref i Safle Treftadaet­h y Byd Blaenafon, mae Torfaen hefyd wedi gweld ehangu yn y sectorau twristiaet­h a lletygarwc­h. Gall cysylltiad­au teithio rhagorol ynghyd â seilwaith digidol soffistige­dig sicrhau bod busnesau’n medru gweithredu ar lwyfan cenedlaeth­ol a byd-eang. Mae Torfaen yn cynnig amrywiol leoliadau busnes ac yn ymfalchïo yn yr arbenigrwy­dd sydd i’w gael yn y gweithlu lleol, ynghyd â’u hymroddiad.

Mae Zodiac Seats UK (ZSUK) yn un o arweinwyr y diwydiant ar gyfer seddau premiwm a phwrpasol mewn awyrennau ac wedi bod ar Stad Ddiwydiann­ol Llantarnam yng Nghwmbrân er 2000.

Mae gan y cwmni, sy’n dylunio, ardystio a gwneud seddau arloesol ar gyfer awyrennau Dosbarth Cyntaf a Dosbarth Busnes ledled y byd, 4 o gyfleuster­au ac mae’n cyflogi mwy na 1600 o weithwyr.

Ychwanegod­d Sian Williams, Cyfarwyddw­r AD “mae ein lleoliad yn Nhorfaen yn berffaith i ddenu gweithlu gyda sgiliau o Dde Cymru a thros y ffin”.

Mae ZSUK yn falch o fod wedi sefydlu ei hunan fel un o’r safleoedd gweithgynh­yrchu mwyaf yn yr ardal a chyda mynediad uniongyrch­ol i goridor yr M4, mae’n safle delfrydol ar gyfer ein gweithredi­adau peirianneg a logisteg.

Mae tîm Economi a Mentergarw­ch Torfaen yn helpu busnesau gyda symud i neu fuddsoddi yn Nhorfaen ac mae’n cynnig gwasanaeth am ddim yn cynnwys cymorth gyda chyllid, cynllunio ac eiddo trwodd i recriwtio a chael hyd i sgiliau yn lleol.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom