Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

LLES. Un o’r geiriau a glywn yn blentyn yw fod rhywbeth “er dy les di”.

Pa lesâd i ddyn...

Un o eiriau mawr ein hoes yw, ar wahân i’r Wladwriaet­h Les sydd weithiau yn gwegian o dan ei llesâd ei hun.

Os mai gŵr dieithr yw yfory yn ôl y ddihareb, gŵr reit gyfarwydd i ni heddiw yw afiechyd, gwaetha’r modd.

Un o’r pethau y bydd rhai yn eich cynghori o wybod i chi orweithio yw y dylech fynd i ffwrdd i rywle am wythnos a gwneud dim byd. Ond mae hynny’n swnio gormod fel gwaith caled i fi.

Eto, cefais fy hunan y dydd o’r blaen yn penderfynu y dylwn wneud rhywbeth a fyddai yn fy ngorfodi i ymlacio a hynny ar ôl lansiadau o’m cyfrol “Cennad” a darlleniad­au barddoniae­th mewn nifer o wyliau llenyddol yng Nghymru a thros y ffin.

Bu eleni yn flwyddyn o ailafael â phethau ar ôl dioddef o’r “eryr” y llynedd. Do, bu haid o eryrod yn nythu yn fy mhen, yn crafangu am y mwyaf â’m llygad nes fy ngwneud yn swp sâl.

Diolch i’r drefn mae’r eryrod wedi diflannu bellach gan adael dim byd mwy na symudiadau fel rhywun yn dawnsio tap ar eich cnawd. Weithiau, bydd fel pe bai’n bwrw glaw mân y tu mewn i ’nhalcen – edryches i’r nenfwd unwaith rhag ofn bod y to yn gollwng! A weithiau bydd ambell bluen o’r eryr yn hedfan uwch fy mhen.

Ond ymweliadau hawdd eu dioddef yw’r rhain – fel rhywun yn galw heibio i’ch gweld ac yna’n diflannu heb ddweud ffarwel! A does dim angen tabledi gan na ellir ei alw yn boen – dim ond poendod falle?

Wel derbyniais gyngor gan sawl cyfaill. Y rhyfeddaf oedd cael gwellt o sgubor lle bu ceffyl yn gorwedd arno a’i roi dros y man gwan.

Ond cyngor gan gyfaill arall a enillodd y dydd. Beth am roi cynnig ar aciwbigo?

Nawr, dyw’r syniad o orwedd ar fy nghefn a chael nodwyddau, wel pinnau bach, wedi eu gwanu i mewn i mi yn rhywbeth y byddwn efallai’n ei ystyried ddegawdau yn ôl. Ond pam lai? Fe wnes apwyntiad.

Ac erbyn hyn mae’r sesiynau yn rhai rwy’n edrych ymlaen atynt. Cael gorwedd yn llonydd am awr, a’r nodwyddau yn gwmni tawel. Gwell gennyf hyn o lawer i orwedd yn yr haul ar ryw draeth anghysbell.

Po fwyaf y darllenaf am feddyginia­eth o Tsieina, mwyaf yn y byd y gwelaf iddo oroesi am reswm da.

Pam y bûm mor amharod tybed i ystyried y posibilrwy­dd y gallai fod yn llesol i mi hyd yn oed os bydd ambell gawod ysgafn o law yn parhau? Llesiant yn wir.

A ’sdim byd fel talu rhywun i roi pinnau bach yn eich... ble bynnag!

■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn Athro Barddoniae­th ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom