Gŵyl Tyddyn a Gardd yn cadw hen arferiad mis Mai yn fyw
ROEDD mis Mai yn bwysig yng nghalendr y Celtiaid.
Cynhalient wyliau neu ffeiriau i nodi diwedd eu hanner blwyddyn ar Ôl hirlwm gaeaf. Cyfrwng hefyd i ddathlu tyfiant a dyfodiad yr haf a chael diwrnod i ffwrdd o oruchwylion beunyddiol eu gweithgareddau.
Gellir dweud fod Cymdeithas Amaethyddol Cymru yn cadw’r arferiad yn fyw trwy gynnal Gŵyl Tyddyn a Gardd a gynhelir eleni ar Ddydd Sadwrn Mai 19 a dydd Sul, Mai 20 ar Faes y Sioe, Llanelwedd.
Bydd yn benwythnos gorlawn a channoedd o gystadleuwyr brwd yn dod o bellter ffordd. Ceir yno tua 400 o wahanol ddosbarthiadau ar gyfer defaid, moch, geifr a gwartheg. Nifer ohonynt ar gyfer bridiau traddodiadol, bridiau prin a brodorol.
Ceir dosbarthiadau newydd yn Adran y Moch gyda chystadlaethau ychwanegol i dywyswyr ifanc a chyfle, os mynnir, i feirniadu stoc.
Yn Adran y Ceffylau ceir 120 o amrywiol ddosbarthiadau, nifer yn y Prif Gylch lle gellir eu gweld o’r eisteddle.
Mae’r diddordeb ymhlith cymdeithasau bridiau ceffylau sydd am fod yn gysylltiedig â’r Ŵyl Wanwyn ar gynnydd fel Cymdeithas Ceffylau Bach Prydain, Cymdeithas y Bridiau Mulod a Chymdeithas yr Hen Geffylau. Ymhlith yr atyniadau bydd y Rownd Gymhwyso Cyfrwy Untu Clasurol i ferched, Pencampwriaeth Arabaidd Prydain 2018 a Phrif Rownd Derfynol yr Hen Geffylau yn ogystal â sioe gŵn a sioe ddofednod.
Bydd sylw arbennig yn cael ei roi i gadw tyddyn, garddio a byw yn gynal iadwy. Cyfle i sgwrsio a holi garddwyr arbenigol am y ffordd orau i dyfu llysiau a phlanhigion. Paradwys i’r rhai hynny, boed yn byw yn y wlad neu’r dref, sydd â chariad at fyw yn gynaliadwy a chreadigol ac yn mwyhau cyfranogi at ffyrdd gwledig o fyw.
Yng ngeiriau’r Prifardd Dic Jones: Os yw’r dre yn ddyhead – a ddenodd
Ddynion o’r dechreuad,
Mae ynom bawb ddymunuiad
I fyw yn glos wrth gefn gwlad. Testun boddhad yw gweld a mwynhau’r atyniadau hwyliog a’r arddangosiadau addysgiadol.
Cyfle i siopa a blasu bwyd, diod a chynnyrch gwledig Cymru. Gŵyl i’r teulu oll!