Ffermwyr Ifanc – mudiad sy’n cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i unigolion
YR HYN sy’n dod i’r meddwl i nifer rwy’n siŵr wrth feddwl am y Ffermwyr Ifanc yw hwyl a ffwlbri! Ond y gwirionedd yw ei fod yn llawer mwy na hyn, a gallai’r toriadau ariannol cyson oddi wrth y cynghorau sir olygu newyddion drwg i ardaloedd cefn gwlad.
Fel Ffermwr Ifanc fy hun, fe allaf gadarnhau fod ’na lawer o sbri a ffwlbri yn mynd ymlaen, ond dim ond darn bach o gyfanwaith y mudiad yw hyn. Mae’r mudiad yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i unigolion, ac yn dod â gwerth amhrisiadwy i gymunedau gwledig.
Fel unigolyn y peth amlwg y mae’r mudiad yn ei gynnig yw’r cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd e.e. coginio, barnu stoc, ffensio, gosod blodau – sgiliau a all arwain at greu incwm yn y pen draw, a dod ag arian yn ôl i’r economi wledig.
Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd di-ri i aelodau deithio’r byd, gan gyfarfod pobl o’r un meddylfryd a gwneud ffrindiau oes.
Ond, wrth edrych ar y darlun llawn, yr hyn mae gweithgareddau a chystadlaethau Cymdeithas Ffermwyr Ifanc yn eu cynnig yn fwy na dim yw sgiliau bywyd – siarad cyhoeddus, sgiliau pwyllgora, sgiliau cyfweliad, sut mae ennill a cholli, a gweithio’n galed er mwyn llwyddo.
Mae’r sgiliau yma’n amhrisiadwy ac yn rhai sy’n cael eu datblygu a’u gwella gyda phob profiad. Mae’r sgiliau wrth gwrs yn y pen draw yn ddelfrydol ar gyfer creu dinasyddion doeth ac arweinwyr cryf.
Dyma wedyn lle mae’r cymunedau yn elwa – dinasyddion dymunol a gweithgar sydd yn fwy nag abl i arwain cyfarfodydd a mudiadau o bob math.
Yn ogystal â hyn mae’r ffermwyr ifanc yn weithgar iawn o fewn y cymunedau drwy gydol y flwyddyn yn codi arian i elusennau amrywiol.
Maent hefyd yn gwneud llawer o waith gwirfoddol cymunedol pan fo’r galw e.e. torri glaswellt mynwentydd, peintio neuaddau pentref, stiwardio mewn gwahanol ddigwyddiadau. Ar ben hyn mae’r cyngherddau a’r gwasanaethau i ddiddanu trigolion ein pentrefi a thu hwnt.
Yn wir, i gefn gwlad mae’r mudiad yn amhrisiadwy, ac anodd yw dychmygu’n cymunedau cefn gwlad heb fwrlwm y ffermwyr ifanc.
Mae’n rhoi pwrpas i’r bobl ifanc ac yn lle i wneud ffrindiau oes a magu dinasyddion o’r radd flaenaf, ac yn fwy na dim mae’n gwneud gwaith hynod o bwysig i ddiogelu’r iaith Gymraeg.
Bydd Ffermio yn archwilio gwerth Mudiad y Ffermwyr Ifanc yn ystod yr wythnosau nesaf, gan ymweld â nifer o ffermwyr ifanc a chyn-aelodau ysbrydoledig iawn. Cofiwch wylio bob nos Lun am 9.30yh.
■ Mae Angharad Menna yn aelod o dîm cynhyrchu cyfres Ffermio. Gallwch wylio Ffermio bob nos Lun am 9.30yh ar S4C ac ar alw arlein ar s4c.cymru am 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf.