Nij a Cody yn dod i’r brig yn Nhreialon Meithrin y Pedair Gwlad
TORRWYD tir newydd a fydd yn garreg filltir barhaol yn hanes Treialon Cŵn Defaid Prydain pan gynhaliwyd y treialon cŵn defaid am y tro cyntaf erioed yn y Bala yn 1873.
Yna 33 mlynedd yn ddiweddarach ffurfiwyd Cymdeithas Ryngwladol y Cŵn Defaid gyda phob gwlad yn sefydlu eu cymdeithas genedlaethol eu hunain.
Eleni, am y tro cyntaf, cynhaliwyd Treialon Meithrin y Pedair Gwlad i gŵn dan dair oed gyda thîm o 10 o bob gwlad yn ymgiprys am safle’r pencampwr.
Gellir dweud mai George Bonsall a gafodd y weledigaeth o gynnal Treialon Meithrin rhwng y pedair gwlad ac fe’u cynhaliwyd ar ei fferm yn Ecclesall, Swydd Stafford.
Yn anffodus, roedd y tywydd yn annymunol gydag eira yn gorchuddio’r ddaear a llawer o gystadleuwyr wedi cael anhawster cyrraedd y safle.
Bu’n ddiwrnod eithriadol o oer gyda gwynt dwyreiniol yn chwythu drwy’r dydd.
Roedd y cwrs wedi ei osod ar gae enfawr – tipyn o her i gŵn ifanc – gyda’r defaid yn cael eu gadael allan yng nghanol y cae 350 llath i ffwrdd.
Achosai hyn lawer o broblemau gyda’r ddaear a’r cloddiau fel un blanced gwyn.
Roedd yn anodd iawn i’r cŵn weld y pum dafad a rhaid oedd cyfeirio’r cŵn wrth redeg allan i’w cyrchu.
Cafwyd trafferthion wrth ddidoli’r defaid a oedd yn fwy parod i glymu yn ei gilydd oherwydd y gwynt a’r oerfel.
Mae George Bonsall, perchennog y defaid, yn adnabyddus fel cystadleuydd brwd ac roedd hyn yn amlwg gan fod y defaid yn cymryd eu trafod yn dda.
Cafwyd rhediadau safonol a rhaid cydnabod cyfraniad George Bonsall a’i wraig Ellen a fu’n trefnu o dan amgylchiadau digon anodd, a Ceri Rundle, Bodfari (CSJ Specialist Canine Feeds), y noddwraig, a’r fusnes bellach wedi dod i amlygrwydd drwy’r wlad a thu hwnt.
Pencampwr Treialon Meithrin y Pedair Gwlad oedd Nij Vyas o Loegr gyda Cody gydag 181 o farciau allan o 200, gŵr wedi ymddeol yn gynnar fel swyddog lles yn y gwasanaeth addysg. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar gŵn defaid ac yn cynnal clinigau yn hyfforddi pobl i berffeithio eu crefft.
Yn ail roedd gŵr adnabyddus arall, Kevin Evans o Frycheiniog gyda Trym. (178) Yh drydydd oedd N O’Keefe o’r Iwerddon gyda Dark. (174) Dr Angie Driscoll o Sir Gaerfyrddin gydag Aron (172) oedd yn bedwerydd, Peter Martin o’r Alban gyda Daisy (170) oedd yn bumed a M Gallagher o’r Iwerddon gyda Coin (170) oedd yn chweched.
Yr Alban aeth â’r wobr fel y tîm gorau eleni.