WELSH COLUMN
DAU fyd. A fu dau fyd mor greulon o wahanol i’w gilydd?
Sôn yr ydw i am agor adeilad y llysgenhadaeth Americanaidd yn Jerwsalem gyda holl sbloet y digwyddiad ac etifedd yr Arlywydd Ivanka yno, a’i fab yng nghyfraith cennad heddwch yn y sedd flaen.
Ar sgrin arall, yn Gaza, llanciau, genethod, mamau, tadau, yn cerdded tuag at ffens gan wrthdystio i’r digwyddiad gyda bwledi yn saethu 60 o bobl yn farw, ambell un yn blentyn. O’r ochr arall wedyn, Trump yn cyhoeddi ei fod yn ddiwrnod da dros heddwch. Y ddadl oedd bod yn rhaid derbyn y realiti newydd cyn y gall trafodaethau heddwch ddigwydd.
Mae’n fy atgoffa o’r darluniau a welwyd adeg y frwydr yn erbyn apartheid. Pobl ifanc yn teimlo nad oedd ganddyn nhw ddim i’w golli ac wedi eu cau i gorlan ddur o dir, yr Aifft un ochr iddynt yn cydweithredu gydag Israel, a’r wlad honno o’r ochr arall yn sicrhau mai carchar agored yw, gyda swyddi’n brin a’r cyfleoedd i deithio hefyd yn brinnach. Mewn anobaith, beth sydd gan y rhain i’w golli? Hawdd i Israel feio Hamas ond mae’r sefyllfa’n mynd yn ddyfnach o lawer na hynny.
Ysgrifennodd Amos Oz, un o nofelwyr mwyaf Israel, mewn rhagair i lyfr Basgeg a gyhoeddwyd am fy ngwaith, bod Israel a Palesteina fel dwy garfan (cenedl yn yr achos hwn) yn hawlio perchnogaeth ar dŷ y mae gan y naill a’r llall hawl iddo. Yn y diwedd does dim byd i’w wneud ond ei rannu yn ddwy fflat – fel bod y naill a’r llall yn cael byw yn gymodion.
O sefyllfa drychinebus Israel at gysgadrwydd gwleidyddiaeth Cymru. Rown i’n arfer casáu pobl yn dweud Cymru “fach” er mai term o anwyldeb oedd. Ond galwaf hi’n Gymru fach heddiw am mai meddwl soser sydd ganddi. Meddyliwch o ddifri am ein Senedd hyd yma, yn derbyn mai i San Steffan y bydd rhai o’r grymoedd o Ewrop yn mynd – dros dro meddent. Hy! O na bai gennym gadernid yr Alban.
Gyda’r briodas frenhinol ar ddigwydd, diddorol oedd sylwadau yr Athro Richard Wyn Jones mewn erthygl yn y papur hwn am sefyllfa’r frenhiniaeth ar Gymru. Mae’r syniad y gallai William, Sais o dras ac o ddewis gael ei Arwisgo pe bai Charles yn dod yn frenin yn ddigon i’n hatgoffa eto mai dau fyd croes yw.
Pe bai’n digwydd byddai’r frenhiniaeth a’i chyfoeth yn teyrnasu dros genedl dlotaf yr ynysoedd hyn.
Mae’r lluoedd sy’n cael eu gwahodd i weld y briodas frenhinol yn dweud cyfrolau – “Fydd dim bwyd na diod – dewch â’ch picnics!” Fel y dywedodd rhywun – “Let them eat cake!” Dyw hynny ddim yn golygu na ddymunaf yn dda i’r ddau yn eu bywyd priodasol.
■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant