WELSH COLUMN
HAF 1984 oedd hi a minnau wedi cael fy ngwahodd i roi darlith mewn cynhadledd astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Corc ar agweddau yn ymwneud â merched o Gymru yn yr ugeinfed ganrif.
Allai ddim â chofio yn iawn beth a ddywedais yn y ddarlith honno erbyn hyn ond i mi gyfeirio at feirdd o ferched ymysg pethau eraill ond gallaf gofio o hyd y cwestiwn a ofynnwyd o’r llawr, wedi imi roi ‘r ddarlith.
Cododd un ferch ar ei thraed a gofyn fy marn ar erthylu.
Yn ddiniwed reit, gan anghofio’n llwyr fy mod yn y Weriniaeth dyma fi’n dechrau ateb drwy ddweud mod i’n credu y dylai’r ferch fod â’r hawl dros ei... A chyn i mi gwblhau’r frawddeg honno dyma’r offeiriad a oedd yn gadeirydd y sesiwn yn sefyll ar ei draed ac yn dweud yn ddiflewyn ar dafod nad oedd testun fel yna yn weddus i’w drafod yn gyhoeddus.
A chyda hynna o eiriau, fe ddiolchodd i’r gynulleidfa am ddod i’r sesiwn gan roi taw ar unrhyw drafodaeth.
Wrth edrych yn ôl ar Iwerddon 1984, hawdd yw dod i’r casgliad i’r offeiriaid dawelu os nad byddaru lleisiau a dymuniadau merched gan roi mwy o ystyriaeth i fywyd y baban heb ei eni nag i’r fam oedd yn gorfod ei gario.
Cofiaf o hyd i gyfaill ddweud fel y byddai ei mam yn crio ar ei phen ei hun ar waelod yr ardd bob tro y sylweddolai ei bod yn feichiog gan fagu dros ddwsin o blant.
Ac rwy’n dal i gofio Gwyddel o fardd yn adrodd fel y byddai’n rhaid codi’n gynnar ar fore Sul nid i fynd i’r Offeren ond er mwyn cael eistedd ar un o’r ychydig gadeiriau oedd yn y cartref hwnnw i’r teulu mawr o blant.
Mor falch wyf felly bod y rhod wedi troi a merched wedi ennill yr hawl i benderfynu ar dynged eu cyrff.
Wedi’r cyfan, dod i’r byd fel “gwyrth”, fel person bychan i’w fagu a’i garu’n angerddol ddylai fod yn nod unrhyw enedigaeth.
Nid oes raid i mi ond crybwyll y storïau hyll am ferched yn cael eu cadw gan leianod, a’r sgandalau ynghylch y plant a anfonwyd i’w mabwysiadu.
A bu marwolaeth Savita Halappanavar, yn 2012 oherwydd sepsis wrth iddi ddechrau colli plentyn yn drobwynt yn y ddadl dros fywyd y ferch.
Gellid bod wedi ei hachub pe bai erthyliad yn bosib.
Bu’r farwolaeth yn un greulon wrth iddi dreulio wythnos gyfan yn marw’n araf yn yr ysbyty.
Ond beth am y gwledydd eraill lle mae erthylu yn parhau yn drosedd? Parhau y mae’r frwydr honno o hyd. Ond yn nes adre i’r Weriniaeth, hei lwc i’r ymgyrch dros yr un hawliau i ferched Gogledd Iwerddon. Dyfal donc...
■ Mae Dr Menna Elfyn yn Gyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant