Graham Donaldson yn siarad am ‘Ddyfodol Llwyddiannus’ yng nghynhadledd addysg ‘Anelu at Ragoriaeth’ y Drindod Dewi Sant
GWAHODDWYD un o ffigurau mwyaf blaenllaw byd addysg Cymru i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o athrawon.
Rhoddwyd anerchiad gan yr Athro Graham Donaldson, arbenigwr addysg ac awdur adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ Llywodraeth Cymru, i gynulleidfa o dros 600 o athrawon cyfredol, yn ogystal ag athrawon y dyfodol, yn Yr Athrofa, Athrofa Addysg y Drindod Dewi Sant. Yr Athro Donaldson oedd y prif siaradwr yng nghynhadledd ‘Anelu at Ragoriaeth’ Yr Athrofa, dathliad blynyddol o’r proffesiwn addysgu a’r arfer ardderchog sy’n digwydd mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli, a gwnaeth gynnwys cyflwyniadau, darlithwyr, staff ysgolion a llu o athrawon dan hyfforddiant talentog. Yn ystod ei brif anerchiad, esboniodd yr Athro Donaldson yn fanwl sut y byddai’r cwricwlwm yn cael ei weithredu, yn ogystal â’r goblygiadau wrth symud ymlaen. Meddai “mae’n amser gwych i gychwyn yn y proffesiwn yng Nghymru” ac “mae rhywbeth am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru sy’n gyffrous dros ben”.
Ym mis Mawrth 2014, comisiynwyd yr Athro Donaldson gan Lywodraeth Cymru i ystyried ac adolygu’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru. Mae’r adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ a ddilynodd yn sgil hyn yn edrych ar y cwricwlwm presennol a geir yng Nghymru ac yn awgrymu llawer o gynigion radical ar gyfer newid.
Yn dilyn y gynhadledd, meddai’r Athro Donaldson:
“Yr hyn a oedd yn amlwg yn y gynhadledd ‘Anelu at Ragoriaeth’ oedd y lefel o frwdfrydedd a phenderfyniad ymhlith ein hathrawon dan hyfforddiant i fynd â’n cynigion ymlaen a gwneud iddynt weithio ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Dyma’r cwricwlwm newydd yn cael ei lunio o flaen ein llygaid, a phopeth yr ydym wedi’i weld heddiw, megis y stondinau a chyflwyniadau gan yr athrawon a’r bobl ifanc – dyna yw gwir ystyr y diwygio cyfan yng Nghymru.”
Agorwyd y digwyddiad, a wnaeth arddangos gwaith nifer o ysgolion Partneriaeth Dysgu Proffesiynol Yr Athrofa (PDPA), gyda neges fideo arbennig i’r athrawon dan hyfforddiant gan Yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, a wnaeth siarad am y rôl hanfodol sydd ganddynt i’w chwarae wrth roi ffurf i fywydau pobl ifanc. Trefnir y gynhadledd ‘Anelu at Ragoriaeth’ yn flynyddol gan Yr Athrofa gyda’r bwriad o ddod â’r holl athrawon BA (Add.) Cynradd, a TAR Cynradd ac Uwchradd at ei gilydd er mwyn rhannu arfer da wrth iddynt baratoi ar gyfer gyrfa mewn addysgu. Mae’r Athrofa – Yr Athrofa Addysg, yn glymblaid o arweinwyr addysg rhyngwladol sy’n gweithio tuag at drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau yng Nghymru. Wedi ei sefydlu gan y Drindod Dewi Sant, mae gan Yr Athrofa dair rhan – Partneriaeth Dysgu Proffesiynol; Canolfannau Ymchwil ac Arloesi, a Chomisiwn Addysg Cymru – sy’n adeiladu ar hanes clodwiw addysg athrawon yn Ne-orllewin Cymru. Ychwanegodd Mathew Jones o’r Athrofa, trefnydd y digwyddiad:
“Rydym wrth ein boddau bod yr Athro Donaldson wedi cymryd amser, er gwaethaf ei amserlen brysur, i ymuno â ni yn ein cynhadledd ‘Anelu at Ragoriaeth’ am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae cynnal digwyddiad o’r fath yn hanfodol, ac mae’n gyfle i ddathlu popeth sy’n wych am y sector. Mae’n bwysig bod ein hathrawon dan hyfforddiant yn cael y cyfle i glywed pam y mae addysgu yn yrfa wych a boddhaol, ac roedd llawer o’r cyflwyniadau a oedd yma heddiw yn wir ysbrydoledig.”