WELSH COLUMN
MAE’N naturiol i bobl edrych yn ôl dros yr 50 mlynedd diwethaf a chanfod rhai pigion yn achosion llosg y dydd.
Colli Robert Kennedy a’r gohebwyr yn adrodd fel y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol pe bai ef wedi cael cyfle Arlywyddol.
Yn sicr, mae elfen o hiraeth gan rai wrth feddwl am hyn a’i safiad dros werthoedd penodol. Mor wahanol i’r sawl sydd bellach yn y Tŷ Gwyn.
Rwy am edrych yn ôl hefyd ar rywbeth a wnaeth effeithio arnaf 50 mlynedd yn ôl. Rhyfel Fiet-Nam.
A daeth llu o atgofion yn ôl i mi wrth weld sut y bu i ddigwyddiad ar Fai 17, 1968 yn Catonsville, Maryland newid y ffordd yr edrychwn ar y byd.
Y noson honno, aeth naw o brotestwyr, dau offeiriad yn eu plith, i mewn i swyddfa lle y cedwid manylion a drafftiau darpar filwyr i’w hanfon i Fiet-Nam . Yr hyn wnaethon nhw wedyn oedd llosgi’r drafftiau gyda napalm a wnaethpwyd ganddynt cyn nodi’r weithred a chael eu harestio.
Mae eu geiriau am y weithred yn ysbrydoledig: “Gyfeillion, ein hymddiheuriadau am ymyrryd â threfn dda, llosgi papurau yn lle plantos... Ni allem, wir i Dduw, wneud fel arall, cans yr ydym yn glaf o’r ysbryd, ein calonnau’n gwrthod gorffwystra i ni wrth feddwl am wlad a’i phlant yn cael eu llosgi.”
Fe’i Daniel Berrigan fel Philip ei frawd, er i Daniel osgoi carchar am gyfnod maith gan annerch miloedd o gefnogwyr yn erbyn y rhyfel yn Indo-Tsieina cyn ildio i’r awdurododau. Parhaodd ei frwydr nid yn unig dros heddwch yn Fiet-Nam ond dros drueiniaid a’r rhai anghenus yn ein cymdeithas. Mae’r ffaith iddo gael ei enwebu yn 1972 ar gyfer y Wobr Nobel am Heddwch yn brawf o’i ddylanwad neilltuol.
Bu seremoni fer yn Catonsville eleni, lle mae plac wedi ei godi i goffáu y digwyddiad ac rwy’n gobeithio ymweld â’r lle ym mis Awst. Gweithred fechan ydoedd wrth gwrs ond dengys fel y gall un digwyddiad greu rhywbeth arbennig.
Dibynna un cyfnod ar gyfnod arall am ysbrydoliaeth wrth gwrs oherwydd cafodd Berrigan nerth o eiriau Thomas Merton, un arall a fu farw 50 mlynedd yn ôl i eleni ac un a oedd mor falch o’i gefndir Cymreig. Rhai yn byw ar y ffin oeddynt, y ffin lle mae’r dyfodol i weld yn llawn o beryglon ond hefyd yn cynnig gobeithion.
O’r gorau, rwy’n ysgrifennu hwn hefyd wrth sylweddoli fel y mae rhyfela wedi newid ei eirfa heddiw.
Y gair theatr sy’n fy nychryn bob tro. A’r sylweddoliad diweddaraf i gannoedd gael eu lladd hwyrach yn Raqqa – gan luoedd... wel drosom ni? Heb siw na miw... ond diolch i rywun rannu’r hanes ac “ymyrryd â threfn dda”.
■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant