Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

CYFARCHION o Glawdd Offa, neu o leia’ o’r llwybr sy’n dwyn enw’r clawdd. Achos, am lawer o’r 177 milltir, does dim sôn o’r amddiffynf­a yr oedd Brenin Mercia, medden nhw, wedi ei chodi rhyw 1,250 o flynyddoed­d yn ôl i’n gwthio ni’r Cymry yn ôl tua’r gorllewin.

Medden nhw, medde fi... achos does neb yn hollol siŵr chwaith ai Offa wnaeth ac, os gwnaeth o, faint o’r “Clawdd” sy’n rhan o’i greadigaet­h o.

Ond nid dyna’r pwynt; mae Llwybr Clawdd Offa yn mynd hyd ororau Cymru a Lloegr, y tir yna sy’n gweld llif cyson un ffordd a’r llall, yn ddiwyllian­nol ac econmaidd ac sydd, o ganlyniad, yn dir neb a thir pawb yr un pryd.

Cyn mynd, ro’n i wedi pori’n o lew yn llyfr newydd Myrddin ap Dafydd, Y Gororau; llyfr sy’n cydnabod arbenigrwy­dd ardaloedd sy’n fwy na ffin ddaearyddo­l. Maen nhw’n ffin hanesyddol hefyd – o ran amser, yn ogystal â thir, dyma lle mae cenedl y Cymry’n dechrau a gorffen.

Un o gryfderau mawr llyfr Myrddin ap Dafydd ydi ei fod yn crynhoi hanes canrifoedd o amgylch ambell dre’, adeilad neu bwnc, gan gynnwys y Clawdd ei hun.

Weithiau, mae’n werth camu’n ôl a gweld patrwm y gorffennol; gweld yn fras be’ sy’ wedi digwydd i’r Cymry tros 2,000 o flynyddoed­d.

O wneud hynny, mae’r stori’n gymharol syml. Mi ddaeth yr Eingl a’r Sacsoniaid i’n gwasgu ni i’r rhan o wledydd Prydain sydd bellach yn Gymru a thorri’r cyswllt rhyngon ni â’n pobol yng ngogledd Lloegr a de’r Alban.

Roedd Clawdd Offa ei hun, fwy na thebyg, yn arwydd o sefydlogrw­ydd, os nad tecwch. Am sawl canrif, fuodd yna fawr o newid ac, o fewn eu terfynau eu hunain, mi ffynnodd tywysogion Cymru. Ac, wedyn, mi ddaeth y Normaniaid.

O hynny ymlaen, mae’r stori hir – waeth faint o fai oedd ar rai ohonon ni o dro i dro – yn un glasurol o ymerodrol.

Concro milwrol i ddechrau – gweler y cestyll. Economaidd wedyn – y trefi Normanaidd a’r rheolau caeth yn cyfyngu ar hawliau masnach y Cymry.

Unwaith yr ydech chi’n gallu creu dibyniaeth economaidd mae’r gêm wedi ei hennill a concro diwylliann­ol yn dilyn.

Y cwestiwn mawr, wrth gerdded Llwybr Clawdd Offa heddiw, ydi sut y bydd pobol y dyfodol yn edrych yn ôl wrth gymryd golwg o bell arnon ninnau?

Mi fentra i ddweud y byddan nhw’n gweld fod y ffin wedi ei bylchu’n llwyr. Lle’r oedd y concwerwyr wedi blysio am yr ychydig dir da a ffrwythlon sydd yng Nghymru ac wedyn am ei mwynau, mae eu disgynyddi­on bellach yn gweld rhywbeth arall dymunol iawn – adnoddau hamdden.

Os na fydd rhywbeth yn newid yn fuan, mi fydd Clawdd Offa wedi mynd.

■ Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddw­r Golwg a Golwg 360

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom