Dathlu Wythnos Addysg Oedolion yn y De
WRTH i Wythnos Addysg Oedolion 2018 nesáu, nawr yw’r amser i ddysgu rhywbeth newydd. Yma yn y De cynhelir llond gwlad o ddigwyddiadau er mwyn rhoi blas i chi o’r cyrsiau sydd ar gael yn lleol.
Cynhelir Wythnos Addysg Oedolion 2018 rhwng 18 a 24 Mehefin, ac mae’n dathlu addysg gydol oes – yn y gweithle, fel rhan o gwrs addysg cymunedol, yn y coleg, mewn prifysgol neu ar-lein. Cynhelir yr wythnos ers 27 o flynyddoedd a’r nod yw hyrwyddo’r cyrsiau sydd ar gael – o ieithoedd i gyfrifiadura, o ofal plant i gyllid.
Mae sesiynau mentro a blasu am ddim ar gael ledled Cymru er mwyn annog pobl i roi cynnig ar rywbeth newydd, gan gynnwys holiday Spanish yn MCC yn Nghasgwent am 10yb i 3yh rhwng y 18 a 29 o Fehefin, Blodeuwriaeth yn Hobbycraft yn Parc Manwerthu Pontardulais Road am 1yh a 3yh ar y 21ain o Fehefin a cwrs Manage Money Wales CIC yng Nghanolfan Gwaith Pontypridd ar 22ain o Fehefin rhwng 9yb a 4yh.
Nod yr wythnos yw hyrwyddo’r cyfleoedd di-ri sydd ar gael i ddysgwyr sy’n oedolion yng Nghymru, ac mae wedi’i threfnu gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae dysgwyr sy’n oedolion ledled Cymru hefyd yn cefnogi ymgyrch i hyrwyddo Porth Sgiliau i Oedolion, gwasanaeth Llywodraeth Cymru sy’n darparu gwybodaeth am yrfaoedd i oedolion ynghyd â chymorth, cyngor ac arweiniad ar sut i wella eu sgiliau a’u cyflogadwyedd.
■ Mwy y wybodaeth am yr Wythnos Addysg Oedolion a beth sydd mlaen yn lleol yn www.gyrfacymru.com/porthsgiliau, drwy ffonio 0800 028 4844 neu ddilyn @PorthSgiliauGC.