WELSH COLUMN
ROEDD y daith i Szczecin yng ngwlad Pwyl yn un ddifyr. Wedi cael fy ngwahodd yr oeddwn i wneud darlleniadau o’r gyfrol Bondo gan fod adran yn y brifysgol yno yn cyfieithu fy ngwaith i Rwseg, Wcraneg, Pwyleg, Sorbeg ac un o’r myfyrwyr yn ei gyfieithu i’r Wyddeleg.
Y fath wledd oedd hi i wrando ar y cyfieithiadau hyn a drefnwyd gan y trefnydd a’r darlithydd byrlymus Sabine Asmus.
Y noson gyntaf yno, euthum i ginio gyda rhai o’r staff a chanfod eu bod yn siarad Cymraeg glân gloyw. Sut yn y byd? Wel, dengys yn glir ein bod yn rhan o genhedloedd bychain Ewrop hyd yn oed os yw y llywodraeth am gael ysgariad. A does dim modd ysgaru hanes ieithoedd bychain Ewrop oddi wrthym.
Yn Szczecin ei hun mae yna amgueddfa genedlaethol gwerth chweil a elwir “The Dialogue Centre Upheavals”. Mae’r adeilad ei hun yn ddigon o ryfeddod ac fe enillodd yn 2016 y wobr gyntaf am adeilad gorau’r byd yn y categori “diwylliant”. Hefyd, enillodd y wobr Ewropeaidd am Ofod Cyhoeddus Dinesig yn yr un flwyddyn.
Mae’r lle’n cael ei hyrwyddo fel man lle y gellir trafod a chynnal deialogau ar wahanol bynciau yn ymwneud â hanes Szczecin a gwlad Pwyl.
Hwyrach y byddai man felly yn addas ar gyfer pob gwlad o weld pa mor dila yw deialogau ein systemau democrataidd ni heddiw. Dim morlyn, dim trydaneiddio trenau. Heathrow yn cael ei ehangu? Y diffyg trafod ynghylch Brexit a’r cyflogwyr mawr yn bygwth gadael...
Teithio a wnaethom ar yr Eurostar a chael y daith yn bleserus dros ben. Aros yn Cologne, cyn cyrraedd Berlin ac yna ymlaen i Szczecin. Taith ar y trên yn ôl wedyn i Berlin cyn hedfan adre. Mor wych oedd gweld y wlad yn ei gogoniant, cip ar ambell aderyn, cynffon llwynog yn gwibio heibio, clustiau sgwarnog o ganol cae gwenith. Gwych gweld bod yna ehangderau o diroedd heb eu difa eto.
Wedi dychwelyd i Lundain gyda’r addewid o ddychwelyd i Leipzig rywbryd yn y dyfodol agos, mor ddiflas oedd cyrraedd Paddington o faes awyr Heathrow a’r trên i Gaerfyrddin yn “delayed”. Yna, wedi iddi benderfynu ei bod am ein cludo, dyma arhosfa arall yn Bristol Parkway. Ar stop eto. Neges rhy aml yw “this train will terminate here”. Newid trên i fynd i Abertawe. Wrth gwrs, doedd dim trên yn ein disgwyl yn hwyr y nos yn Abertawe a threfnwyd tacsi i ryw 15 ohonom i Gaerfyrddin. Cyrhaeddom yn chwim wedyn ac yn ddiogel.
Ond wedi croesi o Szcezcin i Berlin gyda threnau llyfn, atgof oedd mor drafferthus yw’r trenau yma.
A dyw’r llywodraeth yn San Steffan fawr gwell wrth lywio peiriant Brexit. Ond pwy sydd wrth y llyw, tybed?
■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant