Mae yn edrych ymlaen at y Sioe Fawr yn Llanelwedd – cyfrwng godidog i gymdeithasu, cyfle i gwrdd â hen ffrindiau a theuluoedd, cymdogion a chysylltiadau sy’n rhannu amrywiol ddiddordebau
MAE hi’n hysybys i bawb mai Sir Drefaldwyn sy’n noddi Sioe Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni a gynhelir ar Orffennaf 23-26 dan lywyddiaeth Tom ac Ann Tudor.
Gŵr y werin, er gall ei gyfenw awgrymu ei fod o dras brenhinol.
Wedi ffermio trwy gydol ei oes a’i eni a’i fagu ar fferm fynyddig deuluol yng Nghwm Nant yr Eira, Llanerfyl, Sir Drefaldwyn.
Dechrau ffermio yn y ffordd draddodiadol – cyntefig erbyn heddiw – gan fugeilio defaid ar gefn ceffyl gyda chymorth cŵn da.
Gwelwyd chwyldro diwydiannol i’w ryfeddu ers y cyfnod hynny, yn wyddonol ac yn dechnegol, gan weddnewid y diwydiant amaethyddol er lles ffermwyr.
Tybed beth fydd adwaith Brexit, gyda’i ansicrwydd a’i gymlethdodau, ar ddyfodol ffermwyr a phobl cefn gwlad Cymru?
Perthyn i’r sir nawdd enwogrwydd arbennig. Cyfeirir ati fel calon mynyddoedd y Cambria gydag amrywiaeth tirwedd, golygfeydd godidog a thir gwastad ffrwythlon.
Ond yn bennaf, Mwynder Maldwyn sy’n adlewyrchiad o’i phobl.
Diddorol oedd deall mai yn Sir Drefaldwyn y clywyd yr enw Jones gyntaf erioed yng Nghymru yn nyddiau Edward VI.
Mae pobl Sir Drefaldwyn ers cenedlaethau wedi bod yn gefnogol iawn i Gymdeithas y Sioe.
Y tro olaf i’r sir noddi’r Sioe oedd yn 2006. Ymwelodd tyrfa enfawr – dros 240,000.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf llwyddodd y sir i godi arian sylweddol trwy gynnal digwyddiadau amrywiol ym mhob cwr ohoni gogyfer â chynnal y Sioe.
O’r sir nawdd y daw Llysgenhades y Gymdeithas am y flwyddyn sef Cathrin Roberts o Drefeglwys.
Un sydd wedi mynychu’r Sioe