Prosiect slyri arloesol yn torri tir newydd i’r diwydiant amaeth
CYDNABYDDIR fferm Coleg Sir Gâr, Gelli Aur, yn Ganolfan Arallgyfeirio a Thechnoleg.
Ei nod yw trosglwyddo technoleg gynaliadwy ac arallgyfeirio ar ffermydd trwy ddarparu cyfleusterau a chanolfan arddangos.
Yno, rhoddir ymchwil ar waith trwy arddangosiadau ar raddfa fasnachol, dangos hwsmoniaeth gynaliadwy a strategaethau rheoli. Rhoddir pwyslais arbennig ar les anifeiliaid a rheolaeth fferm.
Eu prif amcan yw addysgu a hyfforddi unigolion ar gyfer y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant amaeth.
Mae Coleg Sir Gâr yn parhau i ddarparu ystod eang o gyrsiau ers y cwrs hyfforddi cyntaf yno yn 1952-53 ac mae miloedd o fechgyn a merched wedi elwa yn addysgiadol ac yn cydnabod fod y Coleg wedi bod yn sylfaen i’w gyrfaoedd yn y diwydiant amaeth.
Dros y blynyddoedd, mae fferm Coleg Sir Gâr wedi cyflawni nifer o brosiectau buddiol er lles ffermwyr Cymru. Y diweddaraf yw Prosiect Slyri Fferm Gelli Aur. Gall y fenter yma fod yn amhrisiadwy i ffermwyr llaeth.
Wrth i’r diwydiant llaeth ddwyshau, mae rheoli slyri yn dod yn fater cynyddol bwysig. Gwyddom fod slyri yn ffynhonnell werthfawr fel gwrtaith ond gall achosi problemau trafferthus.
Wrth i nifer y gwartheg yn y fuches gynyddu ar nifer o ffermydd, rhaid cael storfeydd pwrpasol, yn enwedig yn ystod gaeaf gwlyb fel y profwyd eleni. Methu gwasgar y slyri mewn pryd neu cymaint o law yn disgyn ar ôl ei chwalu nes i lawer ohono gael ei olchi i ffwrdd, cyrraedd y llwybr dŵr a llygru afonydd.
Bydd Prosiect Newydd Slyri Gelli Aur yn ddatblygiad sy’n torri tir newydd ac yn werthfawr o ran yr economi a’r amgylchedd. Prosiect arloesol a gaiff effaith ar y diwydiant amaeth ac ar yr amgylchedd trwy ddatblygu sustem o ddihysbyddu a phuro slyri.
Bydd y slyri yn mynd trwy broses biodriniaeth electrogemegol arbennig i’w sychu ac un o’r manteision ymarferol ac ariannol yw bod modd adennill maetholion o’r slyri gwlyb fel gwrtaith ar ffurf peled.
Wrth ddihysbyddu slyri, bydd yn lleihau cynnwys y dŵr o ran 82% gan adael dŵr glan, diogel sy’n addas i’w ailddefnyddio. Hyderwn y bydd y prosiect hwn yn cwrdd â chyllideb ffermwyr.
Edrychwn ymlaen at gael y cyfle i weld canlyniadau’r prosiect yn y Diwrnod Agored yn Gelli Aur ar Ddydd Gwener, Awst 31, pryd y bydd croeso i bawb.