WELSH COLUMN
MAE pob un ohonom am wn i yn gyfarwydd â rhywun yn y teulu a fu’n dioddef neu sy’n dioddef o afiechyd meddwl.
Cyhoeddwyd adroddiad yn ddiweddar sy’n dweud pa mor ofnadwy yw’r ddarpariaeth ar gyfer y fath gyflwr, y dyddiau hyn.
Dyna pam roedd darllen llyfr Malan Wilkinson o wasg y Lolfa yn agoriad llygad i ddeall yn well flinderau’r claf. Ac mae darllen Rhyddhau’r Cranc yn ddadlennol. A dweud y gwir cefais fy ysgwyd hyd at ddagrau wrth ddarllen ei hanes, sydd wedi ei adrodd mor ddiflewyn ar dafod ac eto’n gelfydd. Cychwyn drwy ein gorfodi i feddwl am beiriant golchi dillad a’r rheiny’n troelli’n wyllt fel ffordd o ddisgrifio ei meddwl. Mae’r ffaith iddi dreulio cyfnodau dwys dan ofal seiciatryddol yn Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor yn cyfleu i ni mor ddifrifol oedd yr episodau a ddioddefodd wrth ymgodymu â’i chyflwr meddwl.
Dyma’r un o’r llyfrau mwyaf gonest a chignoeth i mi ei ddarllen erioed yn Gymraeg. Mae’n adrodd yr hanes heb arlliw o sentiment ond mewn ffordd hynod afaelgar sydd yn llwyddo i dynnu tannau’r galon. Teimlwn ryddhad o orffen y llyfr er teimlo cysur hefyd wrth iddi restru yr holl gyfeillion a ffurfiwyd yn Hergest. Daeth elfen o hiwmor i’w stori hefyd wrth iddi adrodd am ddau glaf , y naill fel y llall yn mynnu mai “Duw” oedden nhw a chawsant eu galw yn answyddogol yn Duw rhif 1 a Duw rhif 2.
Ddyddiau wedi darllen y llyfr, fedrwn yn fy myw a chanolbwyntio ar ddim byd. Roeddwn am yrru ati, am roi cwtsh iddi ac am ddweud wrthi ei bod yn llenor o’r rath flaenaf. Dylai’r llyfr hwn fod yn adnodd i bawb yn enwedig y bennod “Gwersi Bywyd”. Taw piau hi ond ni fydd taw ar ei dawn, gobeithio.
Trois at Codi Llais wedyn sy’n gasgliad o ysgrifau gan ferched dan olygyddiaeth Menna Machreth, eto o wasg y Lolfa. Ceir profiadau amrywiol a’r ysgrifau am gyflyrau corfforol merched fel yn achos Sian Harries yn cael ei adrodd mor gignoeth. Yna, ceir ysgrifau gan Elin Jones, Llywydd y Senedd, sydd yn rhannu ei phrofiad fel merch yn y byd gwleidyddol gydag Elliw Gwawr hefyd yn cyfrannu at “Curo ar ddrysau grym: #fi hefyd ac aflonyddu rhywiol yn San Steffan”.
Yr ieuengaf ohonynt yw Kizzy Crawford sydd wedi canu am ferched ac yn cydnabod iddi “dyfu lan mewn teulu o fenywod gan fwyaf” ac yn ystyried ei hun yn Gymraes Gymraeg bob amser.
Caiff sylw Sara Huws y gair olaf “Beth am i ni drio chwalu rhamant yr ‘eicon ffeminist’ yn gyfan-gwbl a dathlu hanes menywod sy o’n cwmpas bob dydd.”
A dwedaf amen i hynny.