WELSH COLUMN
DYN a ŵyr be fyddai’r hen bobol yn ei wneud o’r Eisteddfod eleni. Nid dim ond am nad oes yna ddim maes traddodiadol, ond oblygiadau hynny.
Y pethau amlwg i ddechrau. Fydd yna ddim mwd. Hyd yn oed os bydd Canolfan y Mileniwm yn cael ei chwythu i’r Bae, fydd yna ddim mwd.
Dim cyfle felly i ddangos dyfeisgarwch Cymry cefn gwlad go iawn trwy ddefnyddio bagiau plastig tros esgidiau ac ysgwyddau ac unrhyw le arall oedd yn debyg o wlychu.
Mi fydd yr Eisteddfod yn digwydd siŵro fod yn y rhan o Gymru lle mae mwya’ o gaffis a llefydd bwyta i’r filltir sgwâr. Dim esgus o gwbl tros ddod â phecyn o frechdanau sych (neu wlyb) a llond fflasg o rywbeth twym.
O sôn am hynny, mi fyddai rhai yn siomedig o weld bar, heb sôn am yr hylltod o fariau ffansi fydd o amgylch yr ŵyl eleni. Hyfrydwch i lawer yn yr hen ddyddiau oedd ffeindio ffyrdd newydd o smyglo lysh i mewn i’r ŵyl ddi-alcohol. Rasys TT yn Ynys Manaw, prifwyl TT yng Nghymru.
Y darlledwyr, wrth gwrs, oedd y pencampwyr ar hyn. Roedd ganddyn nhw gypyrddau toreithiog yn y dyddiau fu, a hynny’n ychwanegu at eu pwysigrwydd. Mi fu sawl un o fawrion yr Eisteddfod yn mwynhau cynnwys y cypyrddau hynny, beth bynnag oedd y rheol.
Mi fyddai’r hen bobol yn cael sioc hefyd, ond sioc bleserus gobeithio, o weld pa mor amrywiol fydd y gynulleidfa, yn arbennig eleni.
Mae’n flynyddoedd maith ers i fi gerdded rownd y Maes efo ffrind croenddu o Gaernarfon a phobol yn trio siarad pob iaith dan haul efo fo, heblaw ei iaith gynta’, Cymraeg.
Mi fyddai’n wirioneddol braf pe bai’r cymunedau amrywiol sy’n byw yn hen ardal y dociau – y rhannau sydd heb gael eu coloneiddio gan bobol o orllewin Cymru – yn dod â’u cerddoriaeth, eu dawnsfeydd a’u diwylliant i mewn efo nhw.
Fyddai’r hen bobol ddim yn deall yr elfen newydd sydd ar y Maes eleni – Mas ar y Maes.
“Os ’ych chi ar y Maes r’ych chi’n bownd o fod mas,” fyddai eu hagwedd nhw heb wybod bod y gair bach hwnnw wedi magu ystyr newydd.
Fydden nhw ddim yn gwybod am ymgyrchoedd y criw o bobol hoyw a fentrodd siglo’r pafiliwn ac ychwanegu Cylch arall at Gylch yr Orsedd. Fydden nhw chwaith ddim yn deall nad pobol o ardal Hedd Wyn ydi pobol Traws.
Mae’n bosib iawn y bydd yna ffoaduriaid yn y Brifwyl hefyd. Mae rhai sydd wedi gorfod dianc o lefydd fel Syria i ardal Caerdydd wedi dechrau cael gwersi Cymraeg. O gofio record yr hen Gymry yn agor breichiau i Felgiaid neu blant o Wlad y Basg, dw i’n siŵr y bydden nhw’n cael croeso.
■ Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddwr Golwg a Golwg 360