Amser a ddegnys beth ddaw o’r trafodaethau ynglŷn â Brexit
CAFWYD cefnogaeth arbennig i’r Sioe Fawr yn Llanelwedd. Un o’r gorau erioed. Rhaid cydnabod gwaith diwyd y swyddogion a’r trefnwyr oll.
Mae’r digwyddiad yn fwy na sioe ac yn gyfle i drafod pynciau llosg y dydd, yn enwedig gan fod cymaint o wleidyddion wedi ymweld â’r Sioe eleni, gan gynnwys y Prif Weinidog Theresa May a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
Roedd pafiliwn NFU Cymru yn orlawn o bobl yn gwrando ar ddatganiad Carwyn Jones. Cyfeiriodd at y ffaith fod ffermwyr Cymru yn derbyn £260m y flwyddyn, a’r arian yn dod o gyllid Ewropeaidd.
Ond o ble fydd yr arian yn dod ar Ôl 2022 gan nad oes gan Senedd Cymru arian i wneud hynny?
Pwysleisiodd ei bod yn hanfodol bwysig fod holl aelodau’r Senedd, yr undebau amaethyddol a’r holl gyrff sy’n gysylltiedig â’r diwydiant yn brwydro gyda’i gilydd fel bod Llywodraeth San Steffan yn sicrhau fod gan amaethyddiaeth gyllid ar wahân i gyrff eraill. Cyfeiriodd hefyd, at yr angen am farchnad rydd rhyngom ni a’r Undeb Ewropeaidd os oes yna ddyfodol i amaethyddiaeth yng Nghymru ar Ôl Brexit.
Manteisiodd John Davies, Llywydd NFU Cymru, ar y cyfle i drafod effaith y tywydd eleni ar y diwydiant amaeth yn ei drafodaethau gyda Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Cyfeiriodd at y ffaith fod nifer o ffermwyr wedi gorfod dod â’r anifeiliaid dan do gan nad oes porthiant iddynt ar y caeau, a phroblem prinder dŵr. Bu rhaid bwydo’r anifeiliaid ag ogor y gaeaf a phrynu dwysfwyd sy’n eithriadol o ddrud.
Roedd yna ffermwyr o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru ryddhau’r arian a dderbynir ddiwedd Rhagfyr yn gynharach er mwyn talu dyledion.
Yn ei drafodaethau gyda’r Prif Weinidog Theresa May, manteisiodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, ar y cyfle i ddweud bod rhaid ceisio ymestyn cyfnod Erthygl 50 os yw Brexit caled yn debygol. Byddai colli mynediad i farchnad yr Undeb Ewropeaidd yn ddinistriol, nid yn unig i’r diwydiant amaeth ond i economi’r Deyrnas Unedig.
Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi Papur Gwyn ymgynghorol ar “Brexit a’r Tir” (Brexit and Our Land) sy’n golygu cymorth ariannol i ystod eang o weithgareddau sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth. Ofnir nad yw cynnyrch bwyd yn cael y flaenoriaeth.
Yn ei ymateb i’r trafodaethau rhwng Theresa May a’r diplomyddion ym Mrwsel, roedd Tim Breitmeyer, Llywydd Cymdeithas y Tirfeddiannwyr, yn rhagweld dim cytundeb.
Amser a ddengys.