Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

Y PERYG ydi mynd dros ben llestri ond, oedd, roedd hi’n Eisteddfod dda iawn. Ac ychydig yn wahanol.

Er hynny, un o’r pethau gorau ddigwyddod­d oedd y glaw ddydd Sadwrn – jyst i’n hatgoffa ni y gallai Eisteddfod mewn safle sefydlog, hyd yn oed mewn dinas, fod yn annifyr hefyd.

Y broblem i benaethiai­d yr Eisteddfod bellach ydi penderfynu sut i gadw rhai o elfennau gorau Eisteddfod Genedlaeth­ol y Bae a’u haddasu nhw i safleoedd hollol wahanol yn y dyfodol.

Y broblem arall, wrth gwrs, ydi y bydd pobol wedi cael blas ar Faes am ddim a’r stondinwyr wedi gwneud yn ardderchog oherwydd hynny... sut fydd hi’n bosib i godi eto yn y dyfodol?

Eisteddfod y Bae oedd hi achos, o grwydro gweddill y ddinas, fyddech chi ddim yn gwybod bod Prifwyl yno. Os ydi Cyngor Caerdydd eisio iddi ymweld yn gyson, mi fydd rhaid iddyn nhw wneud mwy o ymdrech hefyd.

Ac mi ddaeth yn amlwg mai dim ond mewn ychydig iawn o drefi neu ddinasoedd y gallech chi gynnal Eisteddfod debyg – rhai efo digon o le, digon o adeiladau amrywiol a heb y peryg o amharu’n ormodol ar fywydau pawb arall.

Fyddai dim pwrpas cynnal yr Eisteddfod mewn rhyw gampws coleg ar gyrion tre’; yr holl bwynt oedd ei bod hi ynghanol pobol a’r rheiny’n gallu troi i mewn i fusnesa heb wneud rhyw ymdrech fawr.

Dyna pam na fyddai Maes am ddim ymhobman ddim yn cael yr un effaith. Yn Nhregaron, er enghraifft, does dim digon o boblogaeth o fewn cyrraedd hawdd ac mewn sawl ardal, does dim digon o amrywiaeth poblogaeth i greu’r cyffro diwylliann­ol oedd ar adegau yn Eisteddfod y Bae.

Ond mae yna ambell i beth yn bosib – a dyma gwpwl o syniadau...

Mae angen bachu ar y cyfle eto i gofleidio pobloedd newydd Cymru, cyd-ddathlu eu diwylliann­au nhw a’u cael i rannu yn ein diwylliant ninnau. Yn Nhregaron eto, er enghraifft, mae yna ddigonedd o bobol o ddwyrain Ewrop o fewn cyrraedd hawdd ac mi ddylai’r gwaith ddechrau rŵan o dynnu’r llu mewnfudwyr di-Gymraeg i mewn i’n diwylliant ni.

Un o broblemau pob eisteddfod bellach ydi fod cymaint o bethau’n digwydd ymhobman a’r eisteddfod­wr mwya’ pybyr yn colli 90% o’r gweithgare­ddau. Un o broblemau cymdeithas­au diwylliann­ol a’u tebyg yw llenwi rhaglen y gaea’.

Beth am ffilmio’r digwyddiad­au yma, creu pecynnau ohonyn nhw a’u hanfon ar ddisg i’r cymdeithas­au a’r clybiau gael eu dangos, hyd yn oed am bris bach; mi fyddai’n golygu bywyd newydd, ehangach i’r Eisteddfod ei hun.

Mae’r Brifwyl wedi bod yn arbrofi ac ehangu’i hadenydd ers tro ac mae’n siŵry bydd Eisteddfod y Bae wedi rhoi hwb i hynny. Yn fwy na dim, efallai ei bod wedi dangos yn fwy nag erioed bod angen addasu ar gyfer ardal ei chartre’.

■ Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddw­r Golwg a Golwg 360

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom