Abertawe amdani – y dewis clir
MAE dewis ble i dreulio tair blynedd nesaf eich bywyd yn benderfyniad enfawr
Abertawe yw ail ddinas Cymru, ond PRIFysgol Cymru, a gwyddwn fod llawer mwy i’ch profiad yn y brifysgol na symud i ran hardd o’r byd, felly dyma rai cyflawniadau diweddar i helpu i wneud eich penderfyniad yn haws:
Prifysgol orau Cymru (Guardian University Guide 2019)
Yn gyson ymhlith yr 20 gorau yn y Deyrnas Gyfunol am fodlonrwydd myfyrwyr (Guardian University Guide 2019) a chymorth myfyrwyr (WhatUni)
80% o raddedigion mewn swydd broffesiynol o fewn chwe mis ar ôl graddio (15 gorau yn y Deyrnas Gyfunol)
Y safon uchaf posib ar gyfer addysgu Gwobr Aur TEF y Llywodraeth y – pam byddech chi’n mynd i brifysgol heb safon aur?
Mae Clirio UCAS yn nesáu – os ydych
nnnneisoes wedi dewis eich prifysgol ai peidio, ystyriwch Abertawe fis Medi – fyddwch chi ddim yn difaru!
Ar ben hynny, rydym yn Brifysgol gyfeillgar ac mae ein staff addysgu yn wirioneddol ysbrydoli myfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe’n cefnogi mwy na 50 o glybiau a 130 o gymdeithasau, gyda chyfleoedd perffaith i chi wneud ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd – o syrffio barcud i gemau cyfrifiadur, mae rhywbeth at ddant pawb!
Yma yn Abertawe, gallwch fwynhau bywyd ar ddau gampws – gyda’r holl gyfleusterau ar gael ar Gampws Singleton neu’r Bae. Byddwch hefyd funudau i ffwrdd o ganol y ddinas a’r cyfan sydd ganddi i’w gynnig, neu eiliadau’n unig o’r traeth.
Felly dewch i ymuno â ni i greu atgofion a fydd yn para hyd oes.
Am ragor o wybodaeth, ewch i abertawe.ac.uk/clirio
n