Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

BU’R daith i Washington i lansio “Absolute Optmist”, cyfieithia­d Saesneg o gofiant a luniais am hanes Eluned Phillips yn ddifyr.

Yn y lansiad roedd rhai o’i ffrindiau am adrodd hanesion amdani pan fyddai yno yn America am fisoedd lawer. Roedd hyn yn chwa o awel iach, o gofio’r holl amheuaeth a fu ac sy’n dal i fod er imi brofi ei bod yn awdur ei cherddi. Pwy fyddai wedi ei beio pe bai wedi colli ei thymer at yr Eisteddfod? Ond eistedd yn urddasol a wnaeth yn yr Orsedd am yn agos i 70 mlynedd.

A dyna feddwl am ddicter, a cholli tymer wrth eistedd yn amyneddgar ar awyren am dair awr ar darmac yn Washington oherwydd y tywydd ac awyrennau eraill yn ail gyfeirio eu teithiau.

Y syndod oedd hyn – mor amyneddgar oedd y teithwyr oll. Neb yn colli ei limpyn. A meddwl wnes am Serena Williams yn ei cholli hi’n llwyr yn ffeinal yr US Open gan weiddi a bytheirio ar y dyfarnwr gan fynnu iddo’i thrin yn wahanol am ei bod yn fenyw.

Ond na – dyna lle mae’n rong. Efallai bod Serena wedi dioddef rhywiaeth a hiliaeth yn ei dydd a’r straen o fod yn fam yn pwyso arni. Ond plis, peidier â defnyddio “bod yn fam” fel dadl. Gwn am niferoedd o fenywod dibriod a di-blant sydd yn cario eu blinderau gydag urddas tawel. Nid mater “benywaidd na mamol” mohono. Nid mater ffeminyddo­l chwaith!

Y gwir yw i’r dyfarnwr Ramos ddilyn y ddeddf a dangoswyd yn glir ar y sgrin wedyn ei bod yn cael ei hyfforddi gyda stumiau ei hyfforddwr – p’un ai oedd yn dilyn y rheiny neu beidio. Ac roedd gwneud y fath strancio yn hollol ddwl.

Mewn llythyr yn y papur hwn darllenais sylw afresymego­l arall bod y fenyw yn dweud pethau yn syml o ddealladwy, tra bod y dynion yn gwneud pethau syml yn ddwfn. Cyfeirio yr oedd wedyn at etholiad Plaid Cymru rhwng Leanne Wood, Rhun ap Iorwerth ac Adam Price.

Unwaith eto, peidiwch â phriodoli rhinweddau fel pe bai nhw’n perthyn i’r fenyw yn unig. Dadl ffals yw. Gwn am y naill ferch a’r llall sy’n gallu egluro neu gawlo’r syml a’r cymhleth yn ddeniadol ac yn drychinebu­s! Fel ffeminydd o’r ’70au nid dros ddadleuon fel hyn y gwnaethom frwydro.

Yn syml felly, dim ond un ymgeisydd greda’ i sydd â’r weledigaet­h a’r syniadaeth gyffrous i arwain y Blaid mewn cyfnod sydd yn fwy cymhleth nag erioed. Ac er nad wyf yn aelod o Blaid Cymru mae’n amlwg i mi mai Adam Price yw hwnnw.

Seren drwy gwmwl du gwleidyddi­aeth yw sy’n meddu ar bwyll a dealltwria­eth i fynd at y nod o fod yn Brif Weinidog Cymru wedi’r etholiad nesaf.

■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn Athro Barddoniae­th ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom