Wythnos i ddathlu defnydd ymarferol, naturiol a thoreithiog
FIS Hydref, cynhaliwyd wythnos genedlaethol i ddathlu gwlân. Diddorol yw deall fod mwy o fridiau o ddefaid yn y Deyrnas Unedig nag unrhyw wlad arall yn y byd. Gyda 60 o wahanol fridiau dan ofal 40,000 o ffermwyr, does dim rhyfedd fod angen cynifer o ddosbarthiadau defaid yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Cedwir tua 40 miliwn o ddefaid yng Nghymru yn unig a golyga hyn fod yn rhaid cneifio’r rhan fwyaf o’r bridiau bob haf.
Cydnabyddir gwlân fel y ffibr hynaf sydd i’w gael. Wedi ei brosesu mae’n ddefnydd ymarferol, naturiol, gyda digon i’w gael yn y wlad hon yn gyson.
Mae’r gelfyddyd o ddefnyddio cnu’r ddafad yn hen iawn. Ystyrid gwlân yn nwydd gwerthfawr gan yr Iddewon fel defnydd masnachol i wneud gwisgoedd. Cyfeirir weithiau at wlân fel arwydd o burdeb a sancteiddrwydd. Mae gwerth y gwlân yn dibynnu ar gysondeb yr ansawdd, meinder y cnyfyn a’i natur ystwyth a hyblyg.
Dros y blynyddoedd mae safon y gwlân wedi gwella, er y gall amrywio o frid i frid o fewn yr un ddiadell. Dibynna’r safon ar yr hinsawdd, yr amgylchedd a natur y bwyd a roddir i’r defaid.
I ddathlu wythnos y gwlân, aeth Clwb Ffrindiau Llanddewi Brefi i felin wlân “Gwehyddion y Gylfinir”, (Curlew Weavers) Rhydlewis, Ceredigion. Fe’i cydnabyddir fel un o’r melinau gwlân gorau yn y Deyrnas Unedig sydd wedi ei chomisiynu i ymwneud â’r broses gyfan gan gynnwys nyddu, cribo a phannu o fewn yr un adeilad.
Sefydlwyd y cwmni gan y diweddar Gil a Kay Poulson yn 1961, ac mae bellach yn eiddo i’r mab Roger a’i deulu. Cydnabyddir safon ei grefftwaith o’r radd flaenaf ac mae wedi ennill cydnabyddiaeth Tywysog Cymru dair gwaith. Gellid gweld dillad gwely o Felin Gwehyddion y Gylfinir ar long y QE2 ac maent i’w gweld yn gorchuddio dodrefn 11 Stryd Downing.
Os ydych yn chwilio anrheg arbennig, dyma’r lle. Os oes gennych ddafad sydd wedi dod i amlygrwydd arbennig, ewch â’r cnyfyn i’r felin wlan yn Rhydlewis a medrwch gael unrhyw ddilledyn o’ch dewis i’w wisgo, neu ei edmygu trwy weddill eich oes.