Y diciâu yn parhau i fod yn un o’r heriau mwyaf difrifol i amaeth
ER FOD yna fesurau newydd wedi cael eu cyflwyno i geisio lleihau nifer y gwartheg sy’n dioddef o’r diciâu buchol (TB) yng Nghymru, yn anffodus mae’r afiechyd ar gynnydd 4% ers y flwyddyn flaenorol. Rhaid cydnabod y bu ychydig o welliant dros gyfnod o 10 mlynedd.
Gwneir pob ymdrech gan ffermwyr gwartheg i geisio rheoli’r sefyllfa trwy sefydlu mesurau bioddiogelwch effeithiol ar y fferm er mwyn ceisio rheoli a chael gwared ar yr afiechyd ond mae’n amlwg nad yw’r rheolau na’r profion wedi dwyn ffrwyth. Bu rhaid lladd nifer o wartheg heb angen gan nad oeddent, yn y pen draw, yn dioddef o’r TB.
Ofnir fod y rheolau yn canolbwyntio ar y gwartheg yn unig, heb ystyried yr angen i reoli’r diciâu mewn bywyd gwyllt.
Mae’n hysbys y gall anifeiliaid gwyllt fel moch daear fod yn gyfrifol am ledaenu’r afiechyd ond mae Llyw odraeth Cymru yn gyndyn iawn i ddifa moch daear sy’n bolisi tra gwahanol i Lywodraeth Prydain.
Yn ystod y pedair mlynedd ddiwethaf, mae’r cynllun i ddifa moch daear mewn siroedd yn Lloegr wedi profi bod nifer y gwartheg sy’n dioddef o’r TB wedi gostwng 50% .Os nad eir ati i reoli’r afiechyd ymysg bywyd gwyllt mae’r sefyllfa yn siwr o waethygu.
Bydd rhaid i Lywodraeth Cymru dargedu mwy ar lefel ardal ac ar lefel fferm. Deallir fod rhai ffermydd wedi bod yn gaeth i’r afiechyd TB am 16 mlynedd.
Er fod y ffermwr yn cael ei ddigolledu yn ariannol mae ar golled enfawr. Gall effeithio’n andwyol ar iechyd meddwl y ffermwr a’i deulu.
Gyda’r fferm yn gyfyngedig oherwydd y diciâu golyga na ellir gwerthu un o’r gwartheg ond i’r lladd-dy, heb unrhyw farchnad i loi newydd eu geni ond eu lladd. Golygfa drist, anymunol iawn. Gall diciâu mewn gwartheg beryglu cytundebau masnach i allforio cig i weddill y byd ar Ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae TB mewn gwartheg yn un o’r heriau mwyaf difrifol sy’n wynebu amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.
Hyderwn y bydd y ganolfan ymchwil ryngwladol sy’n cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Aberystwyth eleni yn gyfrwng i gael gwared ar afiechyd TB mewn gwartheg.