Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

RHWNG hyn a’r wythnos nesa’, mi fydd yna bob math o nonsens wedi ei sgrifennu am foi yn ei ganol oed hwyr sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 70.

Mi fydd hi’n fwy anodd nag arfer i benderfynu be sy’n wir neu gelwydd amdano fo ond mi fydd gan y rhan fwya’ o bobol farn.

Os digwyddwch chi fod ymhlith yr ychydig breintiedi­g (ofnadwy) sy’n cael gwahoddiad i’w barti pen-blwydd, mi fydd hi’n eitha’ anodd meddwl am bresant addas hefyd. Allwch chi ddim dweud bod arno fo angen dim. Mae o newydd gael pont, ac mae ganddo fo bopeth arall.

Ei fam fydd yn cynnal y parti – peth reit anarferol o ystyried oed y ddau – ond peidiwch â disgwyl iddi hi fod wrthi’n tylino’r toes ar gyfer y vol au vents neu’n troi’r pice ar y maen ar y gradell. A go brin y bydd yntau’n cyfrannu.

Ia, mae Charles Philip Arthur George Windsor yn cyrraedd oed yr addewid a, druan bach, dim ond addewid sydd wedi bod hyd yn hyn i’r Tywysog, wrth iddo fo weld hen ledi ei fam yn heneiddio’n benstiff ar yr Orsedd.

A gaiff o gyfle? A fydd yna gyhoeddiad ddydd Mercher nesa’ yn y parti? Dyna’r dyfalu sy’n troelli ymhlith y bobol sy’n poeni am bethau o’r fath. Mae rhai hyd yn oed yn cyffroi.

Y cyfaddawd fyddai ei wneud o’n Rhaglyw – os dyna ydi Regent – fel bod ei fam yn dal i allu parhau i dorri’r record am flynyddoed­d o dan y goron ac yntau’n cael statws hanner-brenin.

O blith y Roials, mae Charles yn ymddangos rhyw fymryn yn fwy cymhleth na llawer o’r gweddill a’i arhosiad hir ar erchwyn yr Orsedd siŵr o fod yn ei gymhlethu ymhellach.

Yn yr un ffordd, mae ymateb pobl yn fwy cymhleth tuag ato – rhai’n gwneud hwyl a gwawdio, rhai’n edmygu’r achosion da y mae wedi eu cefnogi, rhai’n gwaredu at y ffordd y mae’n ymyrryd mewn llywodraet­h ond fawr neb yn mynegi teimladau cynnes na chwaith yn eilun addoli.

A be am ei record yn yr un job bendant sydd ganddo fo? Dyma’r dyn sy’n hawlio – neu’n gorfod hawlio – teitl Llywelyn Ein Llyw Olaf ac Owain Glyndŵr.

Ar wahân i ambell ymweliad gwibiog, prynu tŷ ha’ yn Sir Gâr a chyflogi telynores, a ydio wedi bodloni’r disgrifiad swydd?

Hyd yn oed ag anghofio’r nonsens fod un teulu yn dal i gael eu dyrchafu uwchben pawb arall oherwydd yr hyn oedd eu cyndeidiau ganrifoedd yn ôl, mae o wedi methu’n affwysol yn yr un peth da y gallai o fod wedi ei wneud.

Mi gafodd wersi Cymraeg a’u hanghofio. Licio’r frenhiniae­th neu beidio, petai o wedi dod i siarad yr iaith a’i defnyddio hi’n naturiol, mi allai fod wedi gwneud gwahaniaet­h mawr iddi. Wnaeth o ddim.

■ Dylan Iorwerth yw Golygydd Gyfarwyddw­r Golwg a Golwg 360

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom