Rhaid sicrhau polisi cynaliadwy fydd yn gwarantu cyllid teg
DRI mis yn Ôl lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgynghoriad ar ddyfodol ffermydd Cymru, sef “Brexit a’r Tir”.
Hawdd deall pam fod y ddogfen wedi denu cymaint o sylw, gan fod y diwydiant a’r cymunedau gwledig yn wynebu’r her fwyaf ers yr Ail Ryfel Byd. Gall y dyfodol ar Ôl Brexit weddnewid y diwydiant a chefn gwlad yn gyfangwbl.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfarfodydd ledled Cymru i drafod y ddogfen, gyda chyfle i’r undebau amaethyddol ac unigolion drafod ac ymateb i’r cynlluniau erbyn diwedd mis Hydref.
Roedd yna rai o’r farn y dylai’r Llywodraeth fod wedi aros i weld cytundebau Brexit cyn cyhoeddi canlyniadau’r ymgynghoriad. Eraill am gydnabod fod y Llywodraeth wedi rhoi arweiniad o’i bwriadau ac wedi cydnabod pwysigrwydd y diwydiant amaeth i’r gymdeithas leol a’r economi.
Bydd yna newidiadau enfawr i’r ffordd y caiff amaethyddiaeth ei rheoli a’i chefnogi yn ariannol yn y dyfodol. Bwriedir disodli’r CAP a’r Cynllun Taliadau Sylfaenol Uniongyrchol y mae ffermwyr wedi dibynnu arnynt ers blynyddoedd. Y bwriad yw cyflwyno Cynllun Cadernid Economaidd a Chynllun Nwyddau Cyhoeddus a all fod yn benagored iawn. Gall olygu rhoi cymorth ariannol i gynhyrchu bwyd o’r tir, ddim ond os bydd yn fanteisiol amgylcheddol.
Mae ffermwyr yn rhan allweddol ac wrth wraidd y gadwyn gyflenwi bwyd a meysydd eraill o bwysigrwydd economaidd, diwylliannol a chymdeithasol. Rhaid creu polisi sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer y fferm deuluol a’r holl bobl eraill sy’n ymwneud â’r gadwyn fwyd a thu hwnt.
Beth bynnag fydd canlyniad Ôl Brexit, gellir rhagweld y bydd yna ymdrechion i geisio lleihau allyriadau CO₂ a’r nwyon tŷ gwydr sy’n gyfrwng i newid yr hinsawdd.
Gyda’r tymheredd yn cynhesu, byddwn yn fwy tebygol o weld tywydd mwy eithafol, a hynny yn amlach. I wrthsefyll hyn, golyga Llywodraeth Cymru blannu erwau lawer o goed mewn tir cynhyrchiol. Gall hyn gael effaith andwyol a gweld collli nifer o ffermydd teuluol.
Hyderir y gellir cael cytundeb masnachol rhydd, di-rwystr gyda’r Undeb Ewropeaidd gan na all unrhyw gytundebau masnachol newydd ym mhellafoedd y byd fod yn ddigonol o’u cymharu â’r brif farchnad sy’n bodoli ar garreg ein drws. Bydd rhaid cael polisi amaethyddol cynaliadwy gyda fframwaith ariannol a fydd yn gwarantu cyllid teg os am sicrhau dyfodol i ffemwyr teuluol Cymru. Bydd y teuluoedd hynny, yn eu tro, yn cyfrannu tuag at ffyniant y gymuned leol.