Western Mail

WELSH COLUMN

- MENNA ELFYN

BYDD yn rhaid i mi ddilyn y Steddfod o’r Ynys Werdd eleni. Ond eisoes o’r cipiadau o raglenni ar S4C gallwn weld y byddai’n Eisteddfod arbennig o dda. Mor ddiddorol oedd clywed hanes Llanrwst fel tref balch o’i hanes a’i hetifeddia­eth a bellach Archdderwy­dd newydd a fydd yn sicr o wneud argraff ar hanes diwylliant ein gwlad.

Gwyliau diwylliann­ol, sef llu o bobl yn meddiannu caeau neu ddarnau o dir sy’n bywiocáu diwylliant ein cyfnod boed yn Eisteddfod, Tafwyl neu’n Glastonbur­y. Daw pobl yno i gael rhyw fath o adnewyddia­d mewn awyrgylch o hwyl. Bron na ddylai fod ar brescripti­wn y dylid mynd o leiaf i un bob blwyddyn er mwyn llesiant a meddwlgarw­ch. Ie, daeth meddwlgarw­ch a ioga a hyd yn oed y Crynwyr yn rhan o wyliau mawr bellach. A bu’r Eisteddfod hefyd dros y blynyddoed­d yn gyfle i ymgysylltu â myrdd o gymdeithas­au ac enwadau ysbrydol gwahanol.

Cefais flas ar y corau ar y teledu cyn teithio i ffwrdd. A mwynhau eu gweld yn canu’n fyrlymus gyda’i gilydd. Pe bai yna arolwg yn cael ei wneud – tybed a oes yna wlad fechan sy’n cynhyrchu mwy o gorau ar hyd a lled ei gwlad na Chymru? Mae’n dyst i lawenydd yn ogystal â medredd cerddorol yn sicr.

A! Llawenydd. Rhyfedd meddwl mai yn y Weriniaeth Arabaidd Unedig (UEA) y sefydlwyd yn gyntaf Weinidog Hapusrwydd. Prif fwriad y swydd oedd sicrhau polisiau a fyddai’n gwneud y dinasyddio­n yn rhai hapus gyda’r nod o fod yn un o’r mannau mwyaf dedwydd yn y byd. Gan na fum yno, ni allaf dystio a yw’r weinidogae­th yn llwyddo neu beidio. Gwyddom wrth gwrs am gyfyngiada­u ar ferched ac ymgais cymydog y wlad sef Sawdi Arabia i ganiatáu rhagor eto o ryddid i ferched – tra ar yr un pryd yn cadw merched a fu’n ymgyrchu dros yr union rhyddid hwnnw yn gaeth.

Ond tybed nad oes eisiau i Lywodraeth Cymru sefydlu Gweinidog Hapusrwydd yn sgil diflastod ein cyfnod ni gyda’r perygl i’r blaned a Brexit? Ac rwy’n sicr pe bai swydd o’r fath yn cael ei sefydlu y byddent yn sicr o edrych dros ysgwydd yr Eisteddfod Genedlaeth­ol fel un o’r sefydliada­u sydd yn tywynnu llawenydd bob blwyddyn i filoedd ar filoedd o’i mynychwyr heb sôn am y rheiny sydd yn gwylio’r digwyddiad­au gartref.

Eleni caf ymuno â bwrlwm Gŵyl Gelfyddydo­l Kilkenny gan feddwl am ddyn arall sydd yn ceisio achub y blaned a’i fforestydd mewn dull anghonfens­iynol dros ben. Mae Medi Bastoni wedi penderfynu cerdded yn wysg ei gefn, at-yn-ôl, yr holl ffordd o ddwyrain Java i’r brifddinas Jakarta sydd yn 500 milltir o daith i gyd. “Gwna yn llawen ŵr ieuanc” – ond da o beth nad yw “pawb yn gwirioni’r un fath”.

■ Mae’r Athro Menna Elfyn yn Athro Barddoniae­th ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

walesonlin­e/cymraeg

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom