Cymdeithas Waldo i gynnal ocsiwn
SEFYDLWYD Cymdeithas Waldo naw mlynedd yn ôl yn y flwyddyn 2010 gyda’r amcanion i ddiogelu’r cof am waith a bywyd Waldo fel bardd, Crynwr a heddychwr. Hyrwyddo cyfraniad Waldo at lên a diwylliant Cymru trwy ddehongli a chreu ymwybyddiaeth o’i waith. Cydnabod a hyrwyddo cyfraniad Waldo i heddychiaeth.
Dros y naw blynedd diwethaf rydym wedi cynnal darlith flynyddol gyda Emyr Llywelyn, Mererid Hopwood, Robert Rhys, T James Jones, Gareth Miles, Aled Gwyn, Guto Prys ap Gwynfor, M Wynn Thomas, Ieuan Wyn, Jason Walford Davies a Rowan Williams. Hefyd rydym wedi gosod placiau yn Ysgol Botwnnog, Rhosaeron – cartref teulu Waldo, Ar weun Casmael, Llangernyw, Aberystwyth, Capel Millin, Elm Cottage, Kimbolton a Rhoscrawdder ger Penfro.
Byddwn yn dadorchuddio plac gwybodaeth am fywyd a gwaith Waldo yn Oriel y Parc, Tyddewi nos Wener, Medi 27 eleni. Yr un noson bydd darlith gan Emyr Llew a byddwn yn cyhoeddi argraffiad newydd o’r gyfrol “Cerddi’r Plant”, y gyfrol o farddoniaeth i blant a gyfansoddwyd gan Waldo ar y cyd ag E Llwyd Williams.
Cyhoeddwyd taflen “Taith Waldo”. Mae’r daflen yn cyfeirio at yr holl lefydd hynny sy’n berthnasol i hanes bywyd Waldo.
Comisiynwyd y cerflunydd John Meirion Morris i greu penddelw efydd o Waldo.
A dyma ddod at bwrpas y llythyr hwn. Mae hi’n fwriad gan Gymdeithas Waldo gynnal ocsiwn “Llên a chelf a llun a chân” (cyn y Nadolig eleni) a gwerthu lluniau a llawysgrifau i godi arian i’r Gymdeithas i’n galluogi i barhau â’r gwaith i ddiogelu’r cof am waith a bywyd Waldo.
Gofynnaf yn garedig i arlunwyr am un llun, beirdd un o’ch cerddi, awduron dechrau un o’u llyfrau, a chyfansoddwyr caneuon am un gân yn eich llawysgrifen a’i llofnodi. Buaswn yn ddiolchgar felly petaech yn gweld y ffordd yn glir i gyfrannu at y fenter deilwng hon ac anfon eich cyfraniad ataf. Gan ddiolch i chi ymlaen llaw ac ar ran Cymdeithas Waldo.
Alun Ifans Cymdeithas Waldo Maenclochog, Sir Benfro