Western Mail

WELSH COLUMN

- DYLAN IORWERTH

HYD yn oed o bellter y sgrîn fach, roedd yna ryw ysbryd hyderus i’w deimlo yn yr Eisteddfod yn Llanrwst.

Mae o yng ngherdd Jim Parc Nest i Iolo Morgannwg a phenderfyn­iad hwnnw i droi o ymyl y dibyn a sefyll yn erbyn y byd.

Ond mi roedd o yno hefyd yn ysbryd rebel arall, o ben ucha’ Dyffryn Conwy, y reslar Orig Williams.

Mae yna bobol sy’n esgus bod ganddyn nhw hyder a’r rheiny’n aml ydi’r bobol sydd fwya’ ymwybodol ohonyn nhw eu hunain go iawn.

Ond am nad oedd o’n cymryd ei hun ormod o ddifri, mi roedd gan Orig “El Bandito” Williams hyder cwbl naturiol. Fo ei hun oedd o ac roedd o’n gyfforddus o dderbyn hynny.

Roedd o’n rebel o Gymro diedifar ond roedd o’n rebel hefyd o ran ei gymdeithas ei hun. Wedi’r cyfan, go brin y byddai’r parchusion yn y capel yn Ysbyty Ifan erstalwm wedi ei annog i fynd yn reslar.

Ac ar y cyfan, yn gyhoeddus beth bynnag, dydi’r rhan fwya’ o ddynion cefn gwlad Cymru ddim yn fodlon cael eu gweld yn hanner noeth mewn leotards coch, hyd yn oed efo bathodyn Draig Goch.

Ond roedd yna ddyfnder yn

Orig Williams hefyd; doedd dim ond rhaid cael sgwrs efo fo i wybod hynny ac oherwydd ei wreiddiold­eb – o ran meddwl a dweud – y daeth o’n golofnydd i Golwg yn y dyddiau cynnar.

Roedd o’n gwrtais a pharchus o bobol hefyd – nodwedd arall pobol sy’n hyderus ynddyn nhw eu hunain. Pobol wan sy’n cam-drin eraill.

Ro’n i wedi clywed amdano fo flynyddoed­d ynghynt, heb erioed ei weld. Ond roedd pawb oedd wedi’i fagu yn ardal Caernarfon ac yn licio ffwtbol yn gwybod am Orig Williams.

Ymhell cyn dyddiau’r El Bandito a’r sombrero, roedd y cawr o’r Sbyty yn rhan o lein amddiffynn­ol chwedlonol clwb Dyffryn Nantlle, Nantlle Vale.

Un arall o’r rheiny oedd Tarw Nefyn a ninnau’n ei weld yn cerdded hyd y Maes ambell dro, yn dechrau heneiddio nes ei bod hi’n anodd credu mai dyma un o ddynion caled pêl-droed gogledd Cymru.

Yn ôl yr hanes, pan oedd y Tarw ac Orig yn amddiffyn (ac ambell un arall, fel Now Parry a Robin Ken os cofia’ i yn iawn) rhyw gydddigwyd­diad oedd llwyddo i gicio’r bêl yn ogystal â chwaraewyr y tîm arall.

Tebyg i’w agwedd at reolau’r gêm brydferth oedd agwedd Orig Williams at ffug barchusrwy­dd a rhagrith – camp ddigywilyd­d yn ei thwyll ydi reslo.

Mi fyddai El Bandito wedi mwynhau’r gig i’w gofio – efo’r cerddor Gai Toms a’i ferch ei hun, Tara Bethan. Nid oherwydd y clod, ond oherwydd y byddai yntau wedi bod ar y llwyfan yn canu ei hochr hi.

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom