Western Mail

Pam astudio’n ddwyieitho­g?

-

SHWMAE! Cathrin yw fy enw i, ac rwy’n astudio Busnes a Rheolaeth gyda Rheoli Adnoddau Dynol yn y brifysgol. Mae’n anodd credu fy mod yn fy ail flwyddyn a bron a bod hanner ffordd trwy’r cwrs!

Rwy’n astudio fy nghwrs yn ddwyieitho­g gan wneud 40 credyd yn y Gymraeg! Mae astudio trwy’r Gymraeg yn gam naturiol i mi gan fy mod i wedi gwneud fy holl astudiaeth­au yn yr ysgol yn y Gymraeg, ac mae’n gyfle rhy wych i’w golli!

Yn fy marn i mae astudio’n ddwyieitho­g yn fantais fawr. Mae’n eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau a fydd yn y pen draw yn ddeniadol wrth chwilio am swydd yn y dyfodol ac yn bendant dwi wedi elwa llawer o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r grwpiau’n dueddol o fod yn llai ac felly mae’n gyfle da i ddod i nabod eich cyd-fyfyrwyr a darlithwyr. Mae yna fwy o gymorth ar gael a dwi’n fwy hyderus i ofyn cwestiynau ac i gynnig syniadau yn y seminarau.

Yn y flwyddyn gyntaf fe wnes i astudio amrywiaeth o wahanol bynciau.

Roedd hi’n gyfle imi weld pa destunau oedd orau gennai er mwyn gallu mynd mewn i fwy o ddyfnder yn y pwnc yna yn yr ail flwyddyn! Fe wnes i astudio nifer o bynciau a oedd yn cynnwys; Marchnata, Y Gyfraith, Cyllid a Rheoli Adnoddau Dynol, heb anghofio am rhai o’r modiwlau craidd.

Erbyn hyn rwyf wedi penderfynu arbenigo mewn Rheoli Adnoddau Dynol sydd yn cynnwys llawer o wahanol nodweddion o Reoli Perfformia­d, Rheoli Pobl a’r Gyfraith o fewn y gweithle. Er hyn rwy’n astudio modiwlau Rheoli Adnoddau Dynol yn y Saesneg ond rwy’n astudio 3 modiwl craidd yn y Gymraeg.

Mae’r ail flwyddyn hefyd yn cynnwys 15 diwrnod o brofiad gwaith. Rwy’n ddigon ffodus i allu dechrau ar y profiad gwaith yma wrth fynd am 1 diwrnod yr wythnos i adran Rheoli Adnoddau Dynol yn Amgueddfa Cymru sydd yn brofiad hollol wahanol i’r arfer!

Felly os ydych chi eisiau cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau da, yn ogystal â chreu cysylltiad agos gyda’r tiwtoriaid, yna ewch amdani ac astudiwch eich cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Fyddwch chi ddim yn difaru!

■ Darllenwch fwy am daith Cathrin a gwnewch gais ar-lein astudio.cardiffmet.ac.uk

 ??  ?? Cathrin Jones BA (Anrh) Astudiaeth­au Busnes a Rheoli gyda Rheoli Adnoddau Dynol
Cathrin Jones BA (Anrh) Astudiaeth­au Busnes a Rheoli gyda Rheoli Adnoddau Dynol
 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom