Fy mhrofiad o’r ddarpariaeth Gymraeg gyda fy nghwrs chwaraeon ac addysg gorfforol
FY enw i yw Naomi Davies ac astudiais y cwrs israddedig Chwaraeon ac Addysg Gorfforol ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Derbyniais ysgoloriaeth lawn dros 3 mlynedd er mwyn astudio oleuaf 80 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Graddiais gyda gradd 1af o fy nghwrs yn 2015.
Roedd y dewis a gallu i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol yn fy nghysuro ac yn gam naturiol er mwyn parhau ar fy nhaith academaidd oedd wedi deillio o addysg gynradd ac uwchradd Gymraeg.
Cefais fy magu gan deulu di-gymraeg o ardal fach, weddol ddifreintiedig yng Nghwm Rhymni. Er hyn teimlais yn fwy hyderus yn academaidd i ddysgu ac ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Teimlais yn ystod fy amser yn astudio ym Met Caerdydd fy mod yn derbyn profiadau israddedig unigol a theilwredig drwy natur maint ein grwp. O ganlyniad i ddarlithoedd maint seminarau a grwp bach o ddarlithwyr, teimlais fy mod wedi dod i nabod fy narlithwyr yn dda ac efelychodd yn debyg i sut rydych chi’n dod i adnabod eich athrawon wrth astudio yn y chweched dosbarth, heb y wisg ysgol!
Roedd fy ngallu i siarad Cymraeg wedi rhoi’r cyfle i fi fynychu profiad drwy astudio modiwl profiad gwaith o fewn yr adran Addysg Gorfforol yn Ysgol Gyfun Glantaf.
Roedd y profiad hwn yn brofiad bythgofiadwy, euraidd ac yn allweddol yn fy nhaith i gyrraedd fy ngyrfa ddelfrydol fel athrawes Addysg Gorfforol.
O ganlyniad i’r cymorth a phrofiadau tebyg dewisais i ymgymryd ag ysgrifennu fy nhraethawd hir drwy gyfrwng y Gymraeg. Mwynheais astudio’r effaith mae personoliaeth athrawon Addysg Gorfforol o fewn ysgolion De Cymru yn cael ar y fath o arddulliau addysgu maent yn eu defnyddio.
Enillodd fy nhraethawd hir y wobr goffa “Eric Thomas” am y traethawd hir gorau yn yr Ysgol Chwaraeon Met Caerdydd, 2015.
Roedd y wobr hon yn arwyddocaol nid dim ond i fi fel myfyriwr ond hefyd dyma oedd y traethawd hir cyntaf drwy gyfrwng y Gymraeg ag enillodd y fraint hon.
Gan ddilyn profiadau mor gadarnhaol yn ystod fy astudiaethau israddedig llwyddais i gael y fraint o barhau fy hyfforddiant ôl raddedig drwy gwrs TAR Uwchradd Addysg Gorfforol ym Met Caerdydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
O ganlyniad i bartneriaeth gref y brifysgol gydag ysgolion uwchradd Cymraeg De Cymru, medrodd y cwrs ddarparu dau lleoliad, adrannau a mentoriaid profiadol, ysbrydoledig a chefnogol ym Mhlasmawr a Rhydywaun.
Heb y profiadau unigryw, cyfoethog ond hollol angenrheidiol yn ystod fy astudiaethau a thu hwnt, byddaf ddim wedi breuddwydio am gyfle i geisio a llwyddo i ennill swydd
barhaol o fewn adran mor weithgar â gyda safonau mor uchel ag yr adran Addysg Gorfforol yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
■